Joe Allen
Mae Joe Allen wedi pwysleisio fod tîm Cymru yn teithio i Israel ar gyfer eu gêm ragbrofol Ewro 2016 gyda’r nod bendant o “gael y tri phwynt”.
Cyfaddefodd y chwaraewr canol cae fodd bynnag y byddai’n rhaid sicrhau gyntaf nad oedd y tîm yn gadael Haifa yn waglaw gydag Israel eisoes ar frig y grŵp, pwynt o flaen Cymru.
Mynnodd Allen hefyd nad oedd unrhyw arwydd bod Gareth Bale wedi gadael i’r feirniadaeth ohono yn Real Madrid effeithio arno, ac nad oedd problem ganddo ymdopi.
Pedwar mis hir
Mae Cymru wedi gorfod aros pedwar mis hir ar gyfer y gêm hon, ar ôl brwydro i gael gêm gyfartal ym Mrwsel ym mis Tachwedd y tro diwethaf iddyn nhw chwarae.
Ond mae agosatrwydd y garfan genedlaethol yn golygu nad oedd hi’n cymryd llawer o amser i bawb ddod nôl mewn i arfer pethau wrth i’r tîm ymarfer yr wythnos hon.
Ac mae Allen yn hyderus y bydd yr ysfa honno i wisgo’r crys coch unwaith eto yn tanio’r tîm yn Israel dydd Sadwrn.
“’Ni di bod yn aros yn hir i chwarae’r gêm yma – gêm ni ‘di edrych ’mlaen at, a gobeithio allwn ni fynd yna a chael y tri phwynt,” meddai chwaraewr canol cae Lerpwl.
“Ni’n edrych ymlaen at ddod oddi cartref gyda’r garfan, ni’n grŵp agos iawn sydd ‘di tyfu gyda’n gilydd, ni wedi bod gyda’n gilydd ers sbel felly mae hwnna’n help wrth fynd ‘mlaen ar y cae.”
Er mai buddugoliaeth fydd Cymru yn targedu fodd bynnag, fe awgrymodd Allen na fyddai dychwelyd gyda phwynt yn ddiwedd y byd.
“Dw i’n meddwl fyddan ni’n mynd allan i gael y tri phwynt. Dy’n ni ddim eisiau colli yn amlwg, a gyda nhw ar dop y grŵp ar hyn o bryd fi’n siŵr bydd e’n gêm anodd.”
Perfformio’n gyson
Mae Joe Allen wastad wedi bod yn un o chwaraewyr pwysicaf Cymru, ond dros y misoedd diwethaf mae wedi sefydlu’i hun fel un o chwaraewyr allweddol Lerpwl hefyd.
Ac mae’n edrych ymlaen at efelychu’r perfformiadau diweddar hynny i’w glwb pan fydd yn camu i’r maes i Gymru ar y penwythnos.
“Yn ystod y blynyddoedd diwethaf fi wedi cael llawer o brofiad nawr yn erbyn timoedd cryf a chwaraewr cryf,” esboniodd Allen.
“Felly dyna’r fath o beth, gyda chwaraewyr eraill sydd gyda ni hefyd, fydd yn helpu ni i gamu ymlaen fel gwlad.
“Mae ‘di bod yn gwpl o fisoedd da i fi’n bersonol, fel chwaraewr pêl-droed beth ‘dy’ch chi’n edrych ymlaen at yw chwarae ar y penwythnos felly mae’n mynd i fod yn wych.
“Fi’n gobeithio cadw fynd gyda’r form, a gwella fel chwaraewr drwy’r amser.”
Dim pryder am Bale
Doedd gan Allen, sydd bellach yn 25 oed ac yn un o chwaraewyr mwyaf profiadol y garfan, ddim pryderon ynglŷn â meddylfryd Gareth Bale wrth baratoi at y gêm chwaith.
“Mae e’n iawn, fel pob tro mae’n dod i ffwrdd gyda Chymru,” ychwanegodd.
“Mae’n chwaraewr sy’n un o’r gorau yn y byd a rhywun sy’n dangos hynna mewn pob gêm ac mewn pob sesiwn gyda’r garfan.
“Mae e’n berson sy’n gallu ymdopi efo hynna, dim problem, mae gymaint o quality gyda fo, ac o ran falle [yr ochr] mental, does dim problem o gwbl.”
Gwneud eu gwaith cartref
Tra bod Israel yn gwybod beth i’w ddisgwyl gan Gareth Bale, dyw chwaraewyr Cymru ddim cweit mor gyfarwydd â’u gwrthwynebwyr dydd Sadwrn er eu bod nhw ar frig y grŵp.
Ond fe fynnodd Joe Allen y byddai’r garfan yn cymryd eu hamser yr wythnos hon i wneud eu gwaith cartref, a bod llawer o’r gwaith hwnnw wedi cael ei baratoi yn barod.
“Dy’n nhw ddim yn dîm ni’n gwybod llawer amdano, ond yn ystod wythnos yma yn barod ni ‘di bod yn edrych ar sut maen nhw’n chwarae, chwaraewyr sydd i gael [ganddyn nhw], a byddwn ni’n barod ar gyfer y gêm,” esboniodd Allen.
“Mae cymaint o staff wedi bod yn gweithio mor galed i baratoi pethau ar gyfer ni, gwneud yn siŵr ni’n gwybod yn union beth ni’n mynd mewn i yn y gêm yna.”