Mae disgwyl i Kevin Pietersen ddychwelyd i dîm Swydd Surrey pan fyddan nhw’n teithio i Stadiwm Swalec i herio Morgannwg yn y Bencampwriaeth ar Ebrill 19.
Gadawodd Pietersen y sir ddiwedd y tymor diwethaf er mwyn chwilio am gyfleoedd i ganolbwyntio ar gemau undydd T20 ledled y byd.
Fe fydd e’n chwarae i Sunrisers Hyderabad yn yr IPL yn India cyn dechrau tymor y siroedd.
Pe bai ei ail gyfnod gyda Swydd Surrey yn llwyddiannus, mae cadeirydd newydd Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, Colin Graves wedi awgrymu y gallai Pietersen ddychwelyd i garfan Lloegr, er iddo gael ei ddiswyddo yn dilyn ffrae gyda nifer o’i gyd-chwaraewyr a’r hyfforddwyr.
Dydy Pietersen ddim wedi chwarae i Loegr ers Cyfres y Lludw bymtheg mis yn ôl.
Ar ôl cyhoeddi ei fod yn dychwelyd i Swydd Surrey, dywedodd Pietersen ei fod yn rhoi ei holl gyflog am y tymor i Sefydliad Kevin Pietersen, sy’n rhoi cyfleoedd i blant difreintiedig.