Mae asgellwr y Gweilch, Tom Grabham wedi arwyddo cytundeb newydd a fydd yn ei gadw yn Stadiwm Liberty am ddwy flynedd arall.
Fe fu Grabham yn un o’r perfformwyr cyson i’r Gweilch y tymor hwn yn y PRO12 a Chwpan Ewrop.
Ymddangosodd yng nghrys y Gweilch am y tro cyntaf yn 2011, ac mae e bellach wedi cynrychioli’r rhanbarth 34 o weithiau, gan sgorio pum cais.
Fe fu Grabham hefyd yn gapten ar dîm Cymru yng Nghyfres Saith Bob Ochr y Byd yr IRB.
Dywedodd Rheolwr Cyffredinol y Gweilch, Andrew Millward: “Mae’n newyddion da iawn y bydd Tom yn parhau’n rhan o’r garfan am y tymhorau i ddod.
“Cymerodd yr hyfforddwyr y cam o’i newid o fod yn rhif naw i fod yn asgellwr sawl blwyddyn yn ôl, ac fe ddangosodd ei addewid nifer o flynyddoedd yn ôl.
Ychwanegodd fod Grabham yn gyfrannwr mawr wrth i’r Gweilch ymosod.
Dywedodd Grabham: “Rwy’n falch iawn o gael arwyddo am ddwy flynedd arall. Y Gweilch yw fy rhanbarth leol ac rwy’n edrych ymlaen at y dyfodol.
“Y prif nod i fi dros y ddwy flynedd nesaf yw gwisgo’r crys gymaint ag y galla i.
“Mae’r awyrgylch yn gystadleuol iawn yma a phan gewch chi gyfle, rhaid i chi ei fachu neu fe gewch chi’ch hun allan o’r tîm.”
Arwyddodd y blaenasgellwr Joe Bearman gytundeb newydd yr wythnos hon, ac mae Jeff Hassler, Tyler Ardron a Justin Tipuric eisoes wedi arwyddo cytundebau newydd y tymor hwn.
Fe fydd cyn-brop y rhanbarth, Paul James yn dychwelyd i’r Liberty y tymor nesaf, ynghyd â chyn-fewnwr Seland Newydd, Brendon Leonard.