Sammy Almahri
Mae dyn sy’n cael ei amau o ladd menyw mewn gwesty yng Nghaerdydd ar Nos Galan wedi ymddangos o flaen llys.

Dim ond cadarnhau ei enw wnaeth Sammy Almahri yn y gwrandawiad byr yn Llys Ynadon Caerdydd y prynhawn yma.

Mae disgwyl iddo ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd bore yfory ar gyhuddiad o lofruddio Nadine Aburas, 28.

Heddiw oedd y diwrnod cyntaf y cyrhaeddodd yn ôl i Brydain ar ôl cael ei estraddodi o Tanzania.

Cefndir

Cafodd y dyn 44 oed o Efrog Newydd ei arestio gan heddlu yn Tanzania ym mis Ionawr wedi iddo ffoi i’r wlad yn dilyn marwolaeth Nadine Aburas.

Fe gafodd hi ei darganfod yn farw mewn ystafell wely yng ngwesty’r Future Inn ym Mae Caerdydd tua hanner nos ar 31 Rhagfyr, 2014.

Roedd Almahri wedi hedfan o Heathrow i Doha ar Ddydd Calan cyn teithio o Doha i Tanzania.