Bydd cwmni ceir Ford yn argymell bod y ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn parhau i adeiladu injans petrol o 2018 ymlaen, yn ôl adroddiadau.

Ond fe allai’r cynlluniau hynny weld dim ond 250,000 injan y flwyddyn yn cael eu cynhyrchu ar y safle, traean o’r nifer sydd yn cael ei gynhyrchu ar hyn o bryd.

Dyw pencadlys Ford ym Mhrydain heb gadarnhau bod y cynlluniau hynny ar y gweill, ond yn ôl y BBC mae llythyr wedi cael ei anfon i weithwyr y ffatri yn trafod y newidiadau.

Bygythiad o India?

Mae Ford hefyd wedi cyhoeddi eu bod nhw’n adeiladu ffatri newydd yn Gujarat, India fyddai’n gallu cynhyrchu 240,000 cerbyd a 270,000 injan y flwyddyn.

Ar hyn o bryd mae Ford yn cynhyrchu 500,000 injan i’w ceir eu hunain o’r ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr a 250,000 ychwanegol i Jaguar Land Rover, cytundeb sydd yn dod i ben yn 2018.

Ond er mwyn parhau i gynhyrchu injans yno ar ôl 2018 mae’n debygol y byddai’n rhaid i amodau gwaith yn y ffatri gael eu newid.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Ford ar becyn o £15m er mwyn gallu denu’r buddsoddiad nesaf i Ben-y-bont, gyda 10,000 o swyddi yn ne Cymru yn dibynnu ar bresenoldeb Ford yn ôl y cwmni.

Ond fe fydd Pen-y-bont yn gorfod cystadlu â ffatrïoedd eraill Ford yn llefydd fel Sbaen, yr Almaen a Romania er mwyn cynhyrchu’r injans newydd ymhen tair blynedd.