Mae dyn yn ei 20au yn cael ei gadw yn y ddalfa yn dilyn digwyddiad arfog ym mhentref Cynwyd ger Corwen dros nos.

Fe wnaeth y troseddwr gau ei hun mewn tŷ a bygwth swyddogion heddlu gyda gwn yn ystod y digwyddiad ddechreuodd am tua 9:45yh. Roedd hefyd wedi bygwth anafu ei hun.

Mae Ysgol Bro Ddyfrdwy ynghau heddiw yn dilyn y digwyddiad ac fe gafodd ardal Pig y Bont yn y pentref ei chau i’r cyhoedd neithiwr.

Roedd Heddlu’r Gogledd wedi cynghori gyrwyr i gadw draw o’r ardal oherwydd pryderon am ddiogelwch.

Dywedodd yr Arolygydd Steve Williams o Heddlu Gogledd Cymru: “Mae dyn yn ei 20au yn y ddalfa yn dilyn y digwyddiad difrifol yma.

“Hoffwn ddiolch i drigolion Cynwyd am eu cydweithrediad, ac yn enwedig pennaeth Ysgol Bro Ddyfrdwy am gytuno i gau’r ysgol ac i gysylltu â rhieni a staff.”