Nigel Owens
Mae myfyriwr o Abertawe wedi ymddiheuro yn gyhoeddus i’r dyfarnwr Nigel Owens ar ôl anfon neges homoffobig ato ar Twitter dros y penwythnos.

Dywedodd Edryd James ei fod yn chwarae “gêm feddw” ar y pryd, nad oedd yn golygu “unrhyw falais” a’i fod yn ymddiheuro “o waelod calon”.

Roedd Nigel Owens yn dyfarnu’r gêm Chwe Gwlad rhwng Lloegr a Ffrainc oedd yn penderfynu pwy fyddai’n cipio’r tlws eleni.

Heddlu’n ymchwilio

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau eu bod yn parhau i ymchwilio i’r sylwadau a wnaed ar Twitter dydd Sadwrn.

“Mae Heddlu Dyfed Powys wedi dechrau ymchwiliad i sylwadau homoffobig honedig gafodd eu postio ar Twitter tuag at y dyfarnwr rygbi Nigel Owens, ar ôl iddo ddyfarnu’r gêm rygbi ryngwladol rhwng Lloegr a Ffrainc yn Twickenham dydd Sadwrn,” meddai datganiad gan yr heddlu.

“Mae hyn yn dilyn nifer o gwynion gan aelodau’r cyhoedd.

“Mae’r neges Twitter nawr wedi cael ei ddileu o’r dudalen. Mae’r ymchwiliad yn y camau cynnar o hyd.”

Ymddiheuriad

Trydarodd cyfrif @edrydJames neges nos Sadwrn yn dweud “Your a gay **** awful performance against france tonight, how did england top Wales?”.

Fe atebodd Nigel Owens, gan ofyn a oedd e eisiau i’r neges gael ei basio ymlaen am fod yn un homoffobig.

Cafodd y neges wreiddiol ei ddileu gan gyfrif @edrydJames, a bellach mae wedi postio ymddiheuriad i’r dyfarnwr gan feio’r neges ar “gêm feddw”.

“Ymddiheuraf o waelod calon @Nigelrefowens <https://twitter.com/Nigelrefowens> yn dilyn digwyddiadau ddoe. Aeth y gêm feddw allan o bob rheolaeth. Ni fwriadais unrhyw falais.”, meddai yn y neges.