Chris Coleman
Pan gyhoeddodd Chris Coleman ei garfan yr wythnos diwethaf i wynebu Israel dydd Sadwrn yma, doedd o ddim yn swnio’n rhy obeithiol y byddai pawb yn troi fyny yn dilyn gemau’r penwythnos.

Wedi’r cyfan, meddai, doedd o ddim yn cofio’r un dydd Llun lle nad oedd rhyw chwaraewr neu’i gilydd wedi gorfod tynnu nôl ar ôl anafu ei hun yn chwarae dros ei glwb yn y gêm olaf cyn ymuno â’r tîm rhyngwladol.

Ond (croesi bysedd) mae’n bosib iawn fod lwc Coleman, a Chymru, yn troi.

Ni aeth yr un o chwaraewyr Cymru oddi ar y cae gydag anafiadau dros y penwythnos, ac fe fydd rheolwr Cymru’n croesi bysedd nad oes rhyw glec neu gyhyr tynn yn cuddio’n rhywle.

Roedd llygad pawb neithiwr ar Gareth Bale wrth iddo chwarae 90 munud yn yr El Clasico i Real Madrid, ac er mai Barcelona aeth a hi gyda Real yn siomedig unwaith eto, rhyddhad oedd gweld Bale yn dod drwyddi heb niwed.

Roedd yr un peth yn wir am Joe Allen, a gafodd gêm lawn wrth i Lerpwl golli 2-1 yn y ddarbi fawr i Manchester United.

Yng ngemau eraill Uwch Gynghrair Lloegr dydd Sadwrn, fe chwaraeodd Ashley Williams a Neil Taylor gemau llawn wrth i Abertawe gadw llechen lân a threchu Aston Villa 1-0.

Ennill 1-0 wnaeth James Collins a West Ham hefyd yn erbyn Sunderland, gyda’r amddiffynnwr yn chwarae’r gêm gyfan.

Chwaraeodd Aaron Ramsey a Joe Ledley 90 munud hefyd wrth i’w timau nhw ennill 2-1 oddi cartref, gydag Arsenal yn trechu Newcastle 2-1 a Crystal Palace yn cipio’r pwyntiau yn Stoke.

Cafodd Sam Vokes 74 munud ar y cae i Burnley, ond er iddo edrych yn beryglus ar adegau colli 2-0 oedd eu hanes nhw i Southampton.

Doedd James Chester ddim yn ddigon ffit i chwarae i Hull, ac fe gafodd Andy King a Boaz Myhill gemau i’w clybiau nhw ond dydyn nhw ddim yng ngharfan Cymru (King oherwydd gwaharddiad, Myhill gan ei fod wedi ymddeol).

Y Bencampwriaeth

Chwaraeodd Adam Henley (Blackburn) a David Cotterill (Birmingham) 90 munud i’w clybiau, er mai colli oedd hanes y ddau dîm.

Daeth Simon Church oddi ar y fainc a sgorio trydedd gôl Charlton wrth iddyn nhw ennill 3-2 yn erbyn Reading, gyda Chris Gunter a Hal Robson-Kanu yn nhîm y gwrthwynebwyr.

Cafodd Ashley Richards gêm lawn i Fulham yn ystod ei gyfnod ar fenthyg yna, a nos Wener fe ddaeth Dave Edwards oddi ar y fainc wrth i Wolves drechu Derby 2-0.

A gair i gloi am Owain Fôn Williams, yr unig golwr yng ngharfan Cymru chwaraeodd dros y penwythnos.

Yn anffodus iddo fo colli 4-1 gartref wnaeth Tranmere, canlyniad sy’n eu cadw nhw’n uwch na safleoedd cwymp Cynghrair Dau ar wahaniaeth goliau yn unig.

Ar y fainc i’w clybiau dros y penwythnos roedd Ben Davies, Wayne Hennessey, Shaun MacDonald, Danny Ward a David Vaughan, a doedd Tom Lawrence a Sam Ricketts ddim yn y tîm o gwbl.

Seren yr wythnos – Gareth Bale. Dim ots be wnaeth o ar y cae i Real Madrid, bellach ei fod o’n ffit wrth ymuno â charfan Cymru heddiw.

Siom yr wythnos – Boaz Myhill. Ddim yng ngharfan Cymru, ond perfformiad sigledig ar brydiau i West Brom yn dangos pam ei fod yn ail ddewis.