Brigyn
Mae bloc cerdd newydd gwerth £500,000 wedi cael ei agor yn Ysgol Brynrefail, Llanrug.

Yn sgil y buddsoddiad gan Gyngor Gwynedd, mae’r bloc yn cynnwys dwy ystafell ddosbarth, dwy ystafell ar gyfer gwaith grŵp neu gynnal gwersi offerynnol, ystafell ymarfer ar gyfer côr neu gerddorfa, gofod recordio sain a swyddfa.

Cafodd yr bloc, sy’n cael ei alw’n Melodŷ, ei agor yn swyddogol gan y Cynghorydd Dewi Owen, Cadeirydd Cyngor Gwynedd a Mr Dafydd Roberts, Cadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Brynrefail ddoe.

‘Darpariaeth gyfoes’

“Mae’r adeilad newydd hwn yn creu darpariaeth cwbl gyfoes ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain ac rwy’n sicr bydd yn galluogi disgyblion Ysgol Brynrefail i fagu a datblygu eu doniau cerddorol ymhellach,” meddai Dewi Owen.

“Mae’n wych gallu nodi hefyd bod y gwaith adeiladu wedi ei orffen ar amser ac oddi mewn i’r gyllideb gan gontractwyr y Cyngor – sydd yn gamp ynddo’i hun y dyddiau yma!”

Dros yr 12 mis diwethaf, mae Cyngor Gwynedd wedi gwario dros £5 miliwn ar wella adeiladau ysgolion mewn cymunedau ar draws y sir fel rhan o ymrwymiad y Cyngor i ddarparu’r adnoddau a chyfleon gorau posibl i ddisgyblion y sir.

Ymysg cyn-ddisgyblion Ysgol Brynrefail sydd wedi disgleirio ar y llwyfan cerddorol y mae brodyr y band Brigyn, aelodau Derwyddon Dr Gonzo a’r pianydd o Ddeiniolen, Annette Bryn Parri.