Mae band reggae blaenllaw sydd wedi ennill gwobr Grammy yn lansio eu taith ryngwladol mewn tref chwarel yng ngogledd Cymru.

Bydd Steele Pulse, sy’n fand o ardal Birmingham, yn chwarae yn Cell B ym Mlaenau Ffestiniog ar y cyntaf o Ebrill.

Dywedodd un o reolwyr menter a chaffi Cell B Rhys Roberts: “Mae Steele Pulse yn un o fandiau reggae gorau’r byd. Roedden nhw’n un o fandiau gorau Bob Marley.”

“Roeddwn yn gwybod eu bod nhw’n cynllunio taith ac fe wnes i ofyn iddyn nhw chwarae yma. Ar ôl dod i wybod am ein gwaith hefo pobol ifanc, fe wnaethon nhw gytuno.”

Fe fydd y band hefyd yn cynnal gweithdy i bobol ifanc yr ardal – yr unig weithdy ar y daith.

Ar ôl ymweld â Blaenau, fe fydden nhw’n chwarae ym Manceinion, Birmingham a Llundain cyn hedfan i Lwcsembwrg a’r Eidal.