Edwina Hart
Yn dilyn sawl damwain ddifrifol yn ddiweddar ger dwy gyffordd ar yr A470 yn Nolgellau, mae’r Gweinidog Trafnidiaeth Edwina Hart wedi cyhoeddi y bydd dwy gylchdro newydd yn cael eu codi ar y safle er mwyn osgoi damweiniau tebyg yn y dyfodol.

Datgelodd Edwina Hart hefyd y bydd  y goleuadau dros dro presennol yn cael eu haddasu er mwyn osgoi trafferth i fodurwyr.

Mewn llythyr at ymgyrchwyr lleol sydd wedi ysgrifennu at y Gweinidog yn mynegi pryder am nifer y damweiniau, dywedodd Edwina Hart: “Yn dilyn arsylwadau o gamerâu cylch cyfyng, o gyffyrdd A493 a’r A494,  rwyf wedi penderfynu y bydd dwy gylchdro yn cael eu hadeiladu ar ddwy gyffordd fel ateb addas i ddefnyddwyr y ffordd a’r gymuned leol.”

Yn y cyfamser, mae’r Gweinidog wedi gofyn i swyddogion wella’r mesurau diogelwch ar y ddwy gyffordd, er mwyn osgoi trafferth i fodurwyr dros fisoedd yr haf.

Ychwanegodd Edwina Hart “Rwyf wedi gofyn i swyddogion ymgymryd gyda gwelliannau i’r goleuadau traffig dros dro er mwyn lleihau trafferth yn ystod misoedd yr haf. Ar gyfer digwyddiadau mawr fel y Sioe Frenhinol a chyfnodau prysur, bydd y goleuadau traffig dros dro yn cael ei newid gan weithwyr.”

Cyn i’r gwaith ddechrau, bydd yna asesiad ecolegol yn cael ei gynnal ar y safle yn y gwanwyn.

Bydd disgwyl i’r gwaith ddechrau yn fuan yn 2016, gyda’r gwaith i’w gwblhau yng ngwanwyn 2017.