Myfyrwyr Cyfryngau Creadigol Aberystwyth sydd ar daith - (chwith i dde) Gwion Llyr, Lucy Andrews, Alaw Gwyn, Carwyn Blayney
Mae pedwar myfyriwr o Aberystwyth wedi bod yn teithio o gwmpas Cymru er mwyn efelychu nofel enwog Jack Kerouac fel rhan o brosiect drama ar gyfer eu cwrs.

Ers dydd Mawrth mae Alaw Gwyn, Gwion James, Carwyn Blayney a Lucy Andrews wedi bod ar daith, neu roadtrip, o gwmpas Cymru yn seiliedig ar siwrne Sal Paradise yn On The Road.

Mae’r pedwar ohonynt yn astudio gradd meistr Cyfryngau Creadigol Ymarferol ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac wedi bod yn creu ffilmiau byr yn ystod eu taith ar gyfer y prosiect.

21 lle

Fel rhan o’r daith mae’r pedwar wedi ceisio  ymweld â 21 lle yng Nghymru mewn bws mini dros dridiau rhwng 17 a 19 Mawrth, gyda phob lleoliad yn cyfateb a rhywle y gwnaeth cymeriad Sal ymweld yn yr Unol Daleithiau.

Annhebygol yw hi fel arall y byddwch chi’n gweld Aberdaron yn dynwared Kansas City, Felindre yn efelychu San Francisco, Ruthun yn troi mewn i Columbia Studios, neu Portmeirion yn trawsnewid i St Louis!

Bydd taith y myfyrwyr yn gorffen nôl yn Aberystwyth heddiw, ac fe fydd y deunydd a gasglwyd yn baratoad at gynhyrchiad fyw aml-gyfryngol fydd yn cael ei pherfformio ar 1 Mai yn adran Theatr, Ffilm a Theledu’r Brifysgol.

Fe esboniodd Alaw Gwyn mai un o’r pethau roedd y criw am geisio ei wneud oedd ceisio darganfod pa fath o daith oedd hi’n bosib gwneud o gwmpas Cymru heddiw.

“Mae roadtrip yn fath o beth ‘dach chi’n mynd arni a does neb arall wedi bod o’r blaen, ond mae Cymru mor fach ‘da ni’n trio holi a ydi o’n bosib i ni wneud hynny,” esboniodd Alaw Gwyn wrth golwg360.

“Mae ‘na siawns fyddan ni’n nabod pobl ar y daith – fel ‘na mae Cymru ynde!”

Wrth gyfateb i daith Sol Paradise mae’r criw wedi ceisio efelychu’r pellter deithiodd e hefyd – 600 milltir o’i gymharu gyda’r 6,000 milltir yn nofel Jack Kerouac.

Ond maen nhw wedi gwasgu’r daith i dridiau yn lle ychydig wythnosau, gyda phob un ohonyn nhw’n cymryd tro i yrru’r bws mini.

Gallwch ddilyn eu taith hyd yn hyn ar eu cyfrif Twitter, @abermaccy.