Mae un o bwyllgorau’r Cynulliad wedi galw am wahardd cyffuriau cyfreithlon gan ddweud eu bod yn medru camarwain pobol i feddwl eu bod yn fwy diogel na chymryd cyffuriau anghyfreithlon.
Dywedodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithaso fod cyffuriau penfeddwol cyfreithlon fel cocên a chanabis yn cael eu marchnata yn gyffredin fel dewisiadau sydd ddim am effeithio ar iechyd hirdymor person.
Ond mae tystiolaeth a gafodd ei ddarparu i’r ymchwiliad yn dangos y gall y cyffuriau fod yr un mor gaethiwus a pheryglus â chyffuriau anghyfreithlon – gyda rhai defnyddwyr cyffuriau yn nodi y gall eu sgîl-effeithiau fod yn waeth na heroin a chocên.
Clwydodd y pwyllgor bod plant mor ifanc ag 11 oed wedi rhoi cynnig ar y cyffuriau yn Abertawe.
Yn sgil hyn, fe wnaed argymhellion i wella ymwybyddiaeth am gyffuriau cyfreithlon mewn ysgolion a threialu cyfleoedd hyfforddiant i rieni i ddysgu eu plant am beryglon cyffuriau.
Marwolaethau
Dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor: “Cafodd 60 o farwolaethau yn ymwneud â’r cyffuriau hyn eu cofnodi yng Nghymru a Lloegr yn ystod 2013, sydd 15 y cant yn uwch na’r flwyddyn flaenorol.
“Er bod nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio alcohol a sylweddau eraill yn uwch, rydym yn pryderu o glywed bod y defnydd o sylweddau seicoweithredol newydd (NPS) wedi tyfu yng Nghymru, ac mewn mannau eraill, yn y blynyddoedd diwethaf.
“Rydym yn credu y dylai Llywodraeth y DU symud mor gyflym â phosibl i weithredu ar wahardd cyflenwi’r cyffuriau hyn.
“Fodd bynnag, mae’n amlwg o’n hymchwiliad na fydd newid y gyfraith yn datrys y broblem yn gyfan gwbl – mae gwell addysg mewn ysgolion ynghylch camddefnyddio sylweddau, codi ymwybyddiaeth y cyhoedd, a gwell gwasanaethau triniaeth yr un mor bwysig er mwyn sicrhau bod nifer y defnyddwyr yng Nghymru yn cael ei leihau.