Mae disgwyl y bydd cynllun ar gyfer lagŵn llanw gwerth £1 biliwn yn Abertawe yn cael ei drafod gan y Canghellor George Osborne wrth iddo gyhoeddi’r Gyllideb heddiw.

Daw ymysg adroddiadau bod Llywodraeth San Steffan yn y broses o ddechrau trafodaethau swyddogol ar gyllido’r prosiect, sy’n bwriadu cynhyrchu trydan i tua 150,000 o gartrefi yn ardal Abertawe.

Wrth i Tidal Lagoon Power aros i glywed os caiff y cynllun sêl bendith yr Arolygiaeth Gynllunio, mae’r cyhoeddiad yn cael ei weld fel cam ymlaen ac mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi dweud ei fod yn “newyddion gwych” ei fod yn cael ei drafod yn y Gyllideb.

Addewidion

Ymysg y pynciau eraill sy’n debygol o gael eu trafod yn araith y Canghellor mae digwyddiadau pensiwn, codi’r lwfans personol i £11,000 a sgrapio ffurflenni dychwelyd treth am gofnodion digidol.

Mae disgwyl iddo hefyd geisio apelio at y dosbarth canol gan addo i dynnu mwy o bobol allan o dreth etifeddiaeth.

Ond mae Gweinidog Cyllid y Cynulliad Jane Hutt wedi rhybuddio y dylai George Osborne wneud yr un ymrwymiad ar gyfer cyllid i Gymru fel ei gydweithiwr yn y Trysorlys, Danny Alexander.

Bydd George Osborne yn cyhoeddi ei Gyllideb olaf cyn yr etholiad am 12:30 y prynhawn yma.