Bydd ras feics y Tour of Britain eleni’n cychwyn ym Miwmares ym Môn, wrth i brif ras beicio ffyrdd y Deyrnas Unedig ddechrau yng Nghymru am y tro cyntaf yn ei hanes diweddar.

Ar Ddydd Sul 6ed Medi, bydd beicwyr gorau’r byd yn dod i ogledd Cymru ar gyfer y cam agoriadol y ras o Fiwmares i Wrecsam, gyda’r ras yn ymweld â phob un o chwe sir gogledd Cymru.

Dywedodd deilydd portffolio Datblygu Economaidd a Thwristiaeth Cyngor Môn, y Cynghorydd Aled Morris Jones: “Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar i gael cynnal cychwyn y Tour of Britain o Fiwmares.

“Mae denu prif ras beicio ffyrdd Prydain yn gamp fawr i’r Ynys a bydd, heb os, yn cynnig golygfa wych i’r holl wylwyr.”

Y tro cyntaf

Mae Gogledd Cymru wedi cynnal cam o’r Tour of Britain yn y ddwy flynedd ddiwethaf, gyda’r cam yn gorffen yn Llanberis yn 2013 a Llandudno yn 2014, ond dyma’r tro cyntaf i gam o’r ras gychwyn a gorffen yng ngogledd Cymru.

Ar ôl y cam Cymreig agoriadol, ceir saith niwrnod ychwanegol o rasio gyda’r Tour of Britain yn ymweld â Chumbria, yr Alban, Northumberland a’r Peak District cyn cyrraedd a gorffen yng nghanol Llundain.