Eastleigh 2–2 Wrecsam
Achubodd gôl hwyr James Constable bwynt i Eastleigh wrth i Wrecsam ymweld â Stadiwm Silverlake yn y Gyngres nos Fawrth.
Wedi mynd ar ei hôl hi’n gynnar, fe ddaeth y Dreigiau yn ôl i fod ar y blaen erbyn hanner amser, ond cipiodd gôl bum munud o’r diwedd bwynt i’r tîm cartref.
Ben Strevens a roddodd Eastleigh ar y blaen, a hynny o’r smotyn wedi i Sam Finley ddod yn rhy agos i Harry Pell yn y cwrt cosbi.
Roedd yr ymwelwyr o ogledd Cymru’n gyfartal o fewn dau funud serch hynny diolch i ergyd gadarn Louis Moult yn dilyn gwaith da Manny Smith.
Yna, aeth y Dreigiau ar y blaen ddeg munud cyn yr egwyl gyda foli daclus Neil Ashton.
Ac felly yr arhosodd pethau tan y munudau olaf pan roddodd Constable bastwn i’r bêl a’i hanfon yn syth i gefn y rhwyd.
Byddai buddugoliaeth wedi codi Wrecsam i’r hanner uchaf ond maent yn aros yn y pedwerydd safle ar ddeg yn dilyn y gêm gyfartal.
.
Eastleigh
Tîm: Flitney, Green, Beckwith, Strevens, Turley, Evans, Reason (Howard 46′), Midson (Burton 71′), Constable, McAllister (Walker 46′), Pell
Goliau: Strevens [c.o.s.] 17’, Constable 85’
Cardiau Melyn: Reason 34’, Howard 56’
.
Wrecsam
Tîm: Coughlin, White, Hudson (Waterfall 46′), York (Clarke 68′), Ashton, Smith, Finley, Storer, Harris, Morris, Moult (Bishop 89′)
Goliau: Moult 18’, Ashton 35’
Cerdyn Melyn: Moult 87’
.
Torf: 1,246