Casnewydd 1–0 Luton

Caeodd Casnewydd y bwlch ar saith uchaf yr Ail Adran gyda buddugoliaeth bwysig yn erbyn Luton ar Rodney Parade nos Fawrth.

Sicrhaodd gôl hanner cyntaf Aaron O’Connor y tri phwynt i’r Cymry ac maent bellach bwynt yn unig tu allan i’r safleoedd ail gyfle.

Ugain munud oedd wedi mynd pan rwydodd O’Connor yn erbyn ei gyn glwb ac er i Luton gael digon o feddiant wedi hynny fe ddaliodd y tîm cartref eu gafael ar lechen lân.

Roedd canlyniadau eraill da i Gasnewydd nos Fawrth hefyd wrth i Plymouth golli a Stevenage gael gêm gyfartal. Mae Casnewydd bellach yn wythfed yn y tabl, bwynt yn unig y tu ôl i Luton sydd yn chweched.
.
Casnewydd
Tîm:
Day, Yakubu, Jones, Feely, Jackson, Minshull, Porter, Klukowski (Flynn 79′), Sandell, Jeffers (Zebroski 71′), O’Connor (Chapman 91′)
Gôl: O’Connor 21’
Cerdyn Melyn: Feely 44’
.
Luton
Tîm:
Justham, Harriman (Franks 52′), McNulty, Wilkinson, Howells, Lawless (Oduwa 72′), Guttridge, McGeehan, Drury, Cullen (Benson 61′), Lee
Cerdyn Melyn: McGeehan 42’
.
Torf: 2,536