Caerdydd 1–1 Bournemouth
Gôl yr un a phwynt yr un oedd hi wrth i Bournemouth ymweld â Stadiwm Dinas Caerdydd yn y Bencampwriaeth nos Fawrth.
Er i’r tîm a ddechreuodd y noson ar frig y tabl fynd ar y blaen wedi chwarter awr fe darodd yr Adar Gleision yn ôl i gipio pwynt yn yr ail hanner gyda gôl Bruno Ecuele Manga.
Harry Arter roddodd yr ymwelwyr ar y blaen a hynny mewn steil gydag ergyd wych o bellter, ac felly yr arhosodd pethau tan hanner amser.
Ond roedd Caerdydd yn haeddu rhywbeth ac fe gawsant bwynt diolch i beniad Manga o groesiad Peter Wittingham toc wedi’r awr.
Mae’r canlyniad yn taro Bournemouth oddi ar y brig ac yn codi Caerdydd un lle i’r trydydd safle ar ddeg yn nhabl y Bencampwriaeth.
.
Caerdydd
Tîm: Moore, Fabio, Ecuele Manga, Morrison, Connolly, Kennedy (Ralls 80′), Gunnarsson (Adeyemi 94′), Whittingham, Noone, Revell, Jones (Doyle 87′)
Gôl: Ecuele Manga 62’
Cardiau Melyn: Connolly 68’, Fabio 90’
.
Bournemouth
Tîm: Boruc, Francis, Elphick, Cook, Daniels, Ritchie (Smith 75′), Arter, Surman, Pugh, Pitman (Kermorgant 75′), Wilson
Gôl: Arter 16’
Cardiau Melyn: Wilson 73’, Francis 90’
.
Torf: 19,819