Rhys Webb
Cyhoeddodd Undeb Rygbi Cymru heddiw mai’r mewnwr 26 mlwydd oed, Rhys Webb, yw’r wythfed chwaraewr i gyrraedd cytundeb ble fydd o’n cael ei dalu ar y cyd gan URC ac un o’r timau rhanbarthol – Y Gweilch yn ei achos e.

Mae Sam Warburton, Dan Lydiate, Jake Ball, Samson Lee, Rhodri Jones, Tyler Morgan a Hallam Amos eisoes wedi arwyddo cytundebau deuol.

Meddai prif hyfforddwr Cymru Warren Gatland: “Mae Rhys wedi sefydlu ei hun fel mewnwr ryngwladol ac yn llawn haeddu cytundeb ddeuol.

“Mae hefyd wedi creu argraff ar lefel ranbarthol i’r Gweilch, ac mae hyn yn sicrhau ei ddyfodol yma, a fydd yn profi o fudd enfawr i rygbi proffesiynol yng Nghymru.”

Mae Rhys Webb wedi bod yn un o chwaraewyr gorau Cymru y tymor hwn, gan sgorio pedwar cais ei saith gêm ddiwethaf.