Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cynghori cefnogwyr rygbi i brynu ticedi i gemau o wefannau swyddogol yn unig, wedi i golwg360 ddod yn ymwybodol o achosion o sgamio.
Mewn o leiaf ddau achos yn ardal Caernarfon, fe dalodd pobol am docynnau i gêm Cymru v Iwerddon ar ôl cysylltu gyda gwerthwr tros y We – ond heb dderbyn eu tocynnau wedyn.
Fe gafodd yr heddlu eu galw ac rydym yn deall bod y mater wedi ei setlo erbyn hyn a’r prynwyr wedi cael eu harian yn ôl.
Yn ôl llefarydd o Undeb Rygbi Cymru, mae cwsmeriaid yn wynebu “risg o dalu mwy am docynnau neu o gael eu twyllo” os ydyn nhw’n prynu gan ffynonellau answyddogol.
Cyngor yr Undeb
“Mae Undeb Rygbi Cymru yn cynghori cefnogwyr rygbi i brynu ticedi i gêmau o wefannau swyddogol o hyd – yn benodol swyddfa docynnau gwefan URC, clybiau aelodau, Gulliver’s Sports Travel neu gan swyddogion lletygarwch URC,” meddai llefarydd.
“Mae cefnogwyr sy’n prynu gan ffynonellau answyddogol yn wynebu risg o dalu mwy am docynnau neu o gael eu twyllo.
“Yn ogystal, gan fod gwerthu ticedi ail law yn torri telerau ac amodau gwerthiant URC, fe fydd yr undeb yn canslo’r ticedi ac yn gwahardd y perchennog rhag mynd i mewn i’r stadiwm ddiwrnod y gêm.
“Does dim rheoliadau tros werthu ticedi ar wefannau cymdeithasol ac mae’n bosib i bobol gael eu hecsbloetio.
“Rydym hefyd yn annog pobol sydd â thicedi dilys i beidio â thynnu llun ohonyn nhw a’u rhoi ar y we er mwyn osgoi defnydd twyllodrus o’r wybodaeth – sy’n cynnwys rhifau seddi.”