Scott Williams - ar y fainc
Mae Warren Gatland wedi gorfod gwneud dau newid i dîm Cymru ar gyfer y gêm yn erbyn Yr Eidal.
Fydd y ddau brop Gethin Jenkins a Samson Lee ddim yn ffit ac felly mae’r ddau a orffennodd y fuddugoliaeth yn erbyn Iwerddon – Rob Evans ac Aaron Jarvis – yn cadw’u lle.
Fel arall, mae’r tîm yr un peth â’r un a ddechreuodd ddydd Sadwrn, gyda Jamie Roberts yn gwrthsefyll y galwadau am gynnwys Scott Williams yn y canol wedi ei gais yn erbyn Iwerddon.
Angen sgôr mawr
Mae angen i Gymru ennill o sgôr mawr er mwyn cael gobaith realistig o gipio’r Bencampwriaeth a barn rhai yw y byddai Williams, canolwr y Scarlets, yn well mewn amgylchiadau felly.
Fe fydd bachwr y Scarlets, Ken Owens, yn ôl ar y fainc yn lle Richard Hibbard ochr yn ochr â’r prop Rhys Gill o’r Saraceniaid, a oedd wedi ei alw i’r sgwad ddoe.
Gareth Davies o’r Scarlets ac nid Mike Phillips yw’r mewnwr ar y fainc.
‘Ennill yn gynta’
Er gwaetha’r pwysau am sgôr mawr, fe rybuddiodd yr hyfforddwr mai ennill oedd y dasg gynta’ yn Rhufain.
“Yr her i ni yw mynd i’r Eidal ac ennill, a cheisio ennill gyda bwlch mawr,” meddai Warren Gatland. “Ond r’yn ni’n gwybod bod hynny’n gofyn llawer iawn a’r job gynta’ fydd cael canlyniad.
“Mae’r Eidal yn seilio eu hyder o amgylch y sgrym a gyrru o’r leiniau ac mae’n ardal lle bydd rhaid i ni gystadlu’n gry’ ar ddechrau’r gêm.”
Mae’r pwyslais ar gryfder ar y dechrau yn awgrymu y gallai rhai fel Williams, Owen a’r blaenasgellwr Justin Tipuric gael mwy o gyfle hefyd.
Y tîm
Olwyr
Leigh Halfpenny; George North, Jonathan Davies, Jamie Roberts, Liam Williams.
Haneri
Dan Biggar, Rhys Webb.
Blaenwyr
Rob Evans, Scoot Baldwin, Aaron Jarvis; Luke Charteris, Alun Wyn Jones; Dan Biggar, Sam Warburton (c), Taulupe Faletau
Eilyddion
Ken Owens, Rhys Gill, Scott Andrews, Jake Ball, Justin Tipuric, Gareth Davies, Rhys Priestland, Scott Williams.