Luke Charteris
Mae clo tim rygbi Cymru, Luke Charteris, wedi gwneud yn fach o’i berfformiad arbennig yn erbyn Iwerddon ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.

Fe wnaeth Luke Charteris dorri record wrth gwblhau 31 o dacls yn ystod y gêm – y mwyaf erioed yn y bencampwriaeth – wrth i Gymru guro 23-16.

Bu hefyd yn serennu yn y llinell, gan ennill canmoliaeth eang gan staff hyfforddi Cymru a’i gydchwaraewyr.

Fe wnaeth Cymru lwyddo i atal Iwerddon drwy 32 cyfnod o chwarae ymosodol gan y Gwyddelod yn ystod y trydydd chwarter yn Stadiwm y Mileniwm.

Taclo

Meddai Luke Charteris: “Mae taclo yn un o’r rhai pethau yna. Maen dibynnu at bwy maen nhw’n rhedeg, ac fe benderfynon nhw redeg ata i gryn dipyn.

“Y peth gorau am y gêm oedd y cyfradd gwaith y tîm drwy gydol gêm o amgylch y cae. Roedd hi’n anhygoel.”

Mae’r sylw bellach wedi symud at gêm derfynol y bencampwriaeth ddydd Sadwrn nesaf pan fydd Cymru’n wynebu’r Eidal yn Rhufain, Iwerddon yn erbyn Yr Alban yn Murrayfield a Lloegr yn croesawu Ffrainc i Twickenham.

Mae Lloegr, Iwerddon a Chymru yn gyfartal ar chwe phwynt ar hyn o bryd, ond mae gan Loegr wahaniaeth pwyntiau Lloegr lawer gwell gyda’r Iwerddon yn ail a Chymru’n drydydd.