Abertawe 0–1 Lerpwl
Braidd yn anlwcus oedd Abertawe wrth iddynt golli o gôl i ddim yn erbyn Lerpwl ar y Liberty nos Lun.
Sgoriodd Jordan Henderson unig gôl y gêm i’r ymwelwyr mewn ffordd ffodus braidd hanner ffordd trwy’r ail hanner.
Y tîm cartref gafodd y gorau o’r hanner cyntaf heb os ac roedd angen i Simon Mignolet fod ar ei orau i’w chadw hi’n ddi sgôr. Gwnaeth gôl-geidwad yr ymwelwyr yn dda i arbed cynnig Bafetimbi Gomis wedi hanner awr ac roedd angen arbediad da arall ganddo i atal Gylfi Sigurdsson yn fuan wedyn.
Roedd Lerpwl fymryn yn well wedi’r egwyl a’r cyn Alarch yng nghanol y cae, Joe Allen, oedd eu chwaraewr gorau.
Go brin eu bod yn haeddu mynd ar y blaen serch hynny ond dyna ddigwyddodd union hanner ffordd trwy’r ail hanner pan wyrodd y bêl o dacl Jordi Amat oddi ar Henderson a thros ben Lukasz Fabianski yn y gôl.
Roedd yn rhaid i Abertawe wthio mwy o chwraewyr ymlaen wedi’r gôl ffodus honno a bu bron i Lerpwl fanteisio gyda gwrthymosodiad yn yr eiliadau olaf pan darodd Daniel Sturridge y postyn.
Mae’r canlyniad yn cadw Abertawe yn y nawfed safle yn nhabl yr Uwch Gynghrair.
.
Abertawe
Tîm: Fabianski, Naughton, Amat, Williams, Taylor, Ki Sung-yueng (Dyer 80′), Cork, Shelvey, Gomis, Sigurdsson (Emnes 89′), Routledge (Montero 73′)
.
Lerpwl
Tîm: Mignolet, Can, Skrtel, Sakho, Lallana (Johnson 88′), Henderson, Allen, Moreno (Gerrard 64′), Sterling, Sturridge, Coutinho
Gôl: Henderson 68’
Cardiau Melyn: Henderson 6’, Sterling 26’, Moreno 50’
.
Torf: 20,828