Samson Lee - gweld arbenigwr yn Llundain
Mae prop Cymru, Samson Lee, yn gweld arbenigwr yn Llundain heddiw er mwyn gweld pa mor ddifrifol yw ei anaf.

Cafodd ei gludo oddi ar y cae dim ond chwarter awr mewn i’r fuddugoliaeth dros Iwerddon ym Mhencampwriaeth y 6 Gwlad yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn.

Bydd yn methu gêm derfynol y bencampwriaeth penwythnos nesaf yn erbyn yr Eidal yn Rhufain, lle bydd angen i Gymru sgorio’n uchel a gobeithio y bydd y canlyniadau eraill yn ffafriol er mwyn cipio’r teitl.

Mae’r meddygon hefyd yn cadw golwg ar y prop Gethin Jenkins wedi iddo gael ei eilyddio hanner amser yn erbyn Iwerddon.

Er fod y propiau Rob Evans ac Aaron Jarvis yn debygol o gael eu dewis i chwarae yn Rhufain, mae hyfforddwr Cymru, Robin McBryde, heddiw wedi dweud y byddai’r tîm rhyngwladol hefyd yn croesawu galwad gan Adam Jones.

Ymddeol

Fe wnaeth Adam Jones ymddeol o rygbi rhyngwladol ym mis Ionawr pan gafodd ei hepgor o’r garfan ar gyfer y bencampwriaeth.

Ond mae Cymru hefyd wedi galw prop Exeter, Tomas Francis, i mewn i’r garfan wedi iddo fod yn hyfforddi gyda’r tîm wythnos diwethaf, ac mae prop y Saracens Rhys Gill hefyd wedi ei alw mewn i’r garfan heddiw.

Mae’r ail reng Bradley Davies, yn y cyfamser, wedi cael ei ryddhau nôl i Wasps ar ôl dioddef anaf i’w ysgwydd tra gyda’i glwb.

Mae disgwyl i brif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, enwi ei dîm ar gyfer y gêm yr Eidal yfory.