Carwyn Jones
Mae Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, wedi lansio gwefan newydd yn y gobaith o gael holl drigolion Cymru i “ddysgu, defnyddio neu fwynhau’r Gymraeg” fel rhan o’u bywyd bob dydd.

Fe fydd gwefan Cymraeg yn addas i’w ddefnyddio gan bobol gyda gwahanol alluoedd Cymraeg, yn ôl Llywodraeth Cymru, ac fe fydd gwybodaeth arno am gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith gyda’r teulu, plant a phobl ifanc ac yn y gweithle.

Mae hefyd yn cynnwys adnodd newydd, y cyntaf o’i fath, sy’n gallu chwilio am ddigwyddiadau Cymraeg ym mhob rhan o Gymru.

“Ffynhonnell wych o wybodaeth”

Dywedodd y Prif Weinidog: “Mae rhoi cyfle i bobol ddefnyddio ac ymarfer eu Cymraeg yn eu bywyd bob dydd yn ganolog i Bwrw Mlaen, ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol yr iaith.

“Mae gwefan newydd Cymraeg yn ffynhonnell wych o wybodaeth am ddigwyddiadau sydd ar y gweill a chyrsiau sydd ar gael mewn cymunedau lleol, a dw i am annog pobl ledled Cymru i’w defnyddio i ddysgu, defnyddio a mwynhau’r iaith.

“Fel Llywodraeth, rydyn ni wedi ymrwymo i hyrwyddo’r Gymraeg. Fe ddangosodd yr arolwg diweddar o’r defnydd o’r iaith bod yna lawer i fod yn hapus yn ei gylch a llawer iawn o waith da eisoes ar y gweill. Byddwn yn parhau i adeiladu ar hyn er mwyn sicrhau iaith fyw ar gyfer y dyfodol.”