Fe fydd swyddogion heddlu Caerdydd yn gwisgo camerâu ar eu dillad er mwyn recordio unrhyw un sy’n cambyhafio dros y penwythnos.
A hithau’r gêm olaf i dîm rygbi Cymru ei chwarae adref yn nhwrnament y Chwe Gwlad, mae disgwyl iddi fod yn o nosweithiau prysura’r flwyddyn yn ôl yr heddlu.
Bydd chwech o swyddogion yn gwisgo’r camerâu ar eu dillad ac fe fydd golau gwyrdd yn fflachio er mwyn i bobol wybod eu bod yn recordio.
“Fe fydd rhai swyddogion yn gwisgo camerâu ar eu dillad y penwythnos yma er mwyn profi eu heffeithiolrwydd i gefnogi’r heddweision,” meddai’r Prif Arolygydd Jim Hall.
“Mae gemau rhyngwladol yn creu awyrgylch gwych yn nhrefi a dinasoedd de Cymru ond yn anffodus mae rhai pobol yn eu defnyddio fel esgus i yfed gormod.
“Rydym yn gobeithio lleihau’r achosion o ymddygiad anghymdeithasol yng Nghaerdydd.”