Bethan Jenkins
Mae un o Aelodau Cynulliad Plaid Cymru wedi cyfaddef ei bod hi’n siomedig bod y Cynulliad wedi gwrthod caniatâd i ffilmio’r James Bond newydd yn y siambr – ac nid yn unig am resymau cyhoeddusrwydd.

Dywedodd Bethan Jenkins y byddai defnyddio’r Senedd yn y ffilm wedi rhoi Cymru ar y map, ac y dylai’r rheolau fod yn fwy “hyblyg”.

Ond fe fyddai hi wedi mwynhau gweld y ffilm yn cael ei saethu yn y Bae am reswm arall hefyd – cyfle i gwrdd â phrif actor y ffilmiau, Daniel Craig.

Daeth hynny ar ôl iddi gyfaddef yn gellweirus ar Twitter na fyddai hi’n meindio chwarae rhan ‘Bond Girl’ am ddiwrnod.

‘Rhy fawr i wrthod’

Dywedodd Bethan Jenkins ei bod hi’n deall y rhesymau pam wrthodwyd y cais, ond ei bod hi’n bryd ystyried llacio’r rheolau pan mae’n dod at geisiadau gan ffilmiau mawr.

“Dylen nhw ystyried y ceisiadau fesul un – rwyf wedi sgwennu at y Llywydd i ofyn beth yw’r criteria ar hyn o bryd,” meddai’r Aelod Cynulliad wrth golwg360.

“Yn fy marn i, pan mae yna ffilmiau mawr rhyngwladol gyda franchise mor boblogaidd, rwy’n credu fod e’n rhywbeth rhy fawr i Gymru wrthod.

“Bydde fe wedi bod yn siawns i roi Cymru ar y map yn hynny o beth, i ddangos beth yw’r Siambr, bod e’n cael ei ddefnyddio ar gyfer democratiaeth.

“Ond rwy’n credu bod angen dangos ‘chydig o hyblygrwydd – mae’n colli cyfle mwy na dim.

“Rydym ni’n ddemocratiaeth ifanc, ry’n ni eisiau cael pobl i ymwneud â’r Cynulliad, yn enwedig pobl ifanc, ac fe fydde fe wedi bod yn rhywbeth hwyl i’w wneud … rhywbeth cyffrous i edrych ‘mlaen ato.”

Cellwair ar Twitter

Mae’r digwyddiad eisoes wedi arwain at greu’r hashnod dychanol #seneddbond ar Twitter, gyda Bethan Jenkins ac ACau eraill gan gynnwys Peter Black a Leighton Andrews yn ymuno yn yr hwyl.

Roedd Leighton Andrews yn hapus i ddynwared un o ddynion drwg ffilmiau Bond – a Bethan Jenkins yn awgrymu ei bod hi ffansi rôl fel femme fatale y ffilm.

“Ha ie, wel roedd hynny jyst yn bach o hwyl – ymuno yn y banter fel petai!”, meddai Bethan Jenkins wrth gyfeirio at ei neges Twitter.

Er ei bod hi’n disgrifio ei hun fel ffeminist, ychwanegodd bod modd cymryd golwg ysgafnach ar bethau pan oedd hi’n dod at ffilmiau James Bond.

“Mae lot o bobl yn dweud ei fod e’n chauvinistaidd, yn tanseilio menywod yng nghyd-destun y Bond Girl ac yn y blaen,” meddai’r AC, sy’n cyfaddef ei bod hi’n ffan o lyfrau a ffilmiau ysbïo.

“Ond rwy’n credu bod pobl yn cymryd e’ fel rhywbeth hwylus, dyna yw cymeriad James Bond.

“Dyw e’ ddim yn rhywbeth i fod rhy PC amdano, a fi wastad wedi mwynhau nhw – a bydde cyfle i gwrdd â Daniel Craig wedi bod yn wych!”