Mae pentref Llanfairpwll ar Ynys Môn wedi arfer bod yn destun sylw, gyda thwristiaid yn heidio yno bob blwyddyn i weld un o’r enwau llefydd hiraf yn y byd.

Ond er ei fod yn adnabyddus drwy Brydain a thu hwnt, ddim yn aml mae enw’r pentref yn cael ei ddweud ar un o’r rhaglenni mwyaf poblogaidd ar deledu America.

Cafodd gwylwyr sioe sgwrsio Jimmy Kimmel eu synnu yn ddiweddar felly pan oedd yr actores Naomi Watts ar y soffa – wrth iddi adrodd yr enw’n berffaith yn fyw ar y rhaglen!

Cafodd yr actores Hollywood a serennodd yn King Kong ei geni yn Lloegr ond fe dreuliodd dair blynedd o’i phlentyndod yn byw ar Ynys Môn, ble dysgodd sut i siarad Cymraeg.

Synnu’r gynulleidfa

Wrth i seren Birdman a King Kong sgwrsio â chyflwynydd y rhaglen, fe drodd y sgwrs at ei gwreiddiau yng Nghymru.

A phan ofynnodd Jimmy Kimmel iddi ynganu enw’r pentref, fe lwyddodd Naomi Watts i wneud hynny’n gwbl ddiffwdan.

“Does neb yn fy nghredu i pan dw i’n ei ddweud, maen nhw’n meddwl mod i jyst yn gwneud y peth i fyny,” meddai’r actores ar ôl ynganu enw’r pentref.

Fe geisiodd hi ddysgu Jimmy Kimmel a’i gynorthwyydd ar y rhaglen, Guillermo, i ddweud yr enw ac ynganu’r llythyren ‘LL’.

Ond digon teg dweud mai aflwyddiannus oedd eu hymdrechion nhw:

Tair blynedd

Pan oedd hi’n blentyn fe fu Naomi Watts yn byw am dair blynedd gyda’i nain a’i thaid ar Ynys Môn, cyn symud i Awstralia gyda’i mam Myfanwy a’i brawd Ben pan oedd hi’n 14 oed.

Fe fuodd hi’n byw yn Llangristiolus a Llanfairpwll yn ystod ei chyfnod ar Ynys Môn, gan fynychu Ysgol Gyfun Llangefni.

Fe ddysgodd hi Gymraeg tra’n byw yno – ac mae’n amlwg bod rhywfaint o hynny wedi aros gyda hi hyd heddiw!

Hwb i dwristiaeth?

Fe ddenodd Llanfairpwll sylw rhyngwladol o Tsieina hefyd yn ddiweddar, gydag ymgyrch yno i roi enw Tsieineaidd ar y pentref – Jian Fei Cun neu ‘Pentref Ysgyfaint Iach’ gafodd ei ddewis yn y diwedd.

Mae swyddogion twristiaeth Môn eisoes wedi dweud eu bod nhw’n gobeithio y bydd y sylw diweddar yn Tsieina ac ar raglen Jimmy Kimmel yn hwb i dwristiaeth yn y pentref ac ar yr ynys.

Nid Naomi Watts ydi’r unig actor i ynganu enw’r pentref ar sioe sgwrsio ychwaith.

Yn ddiweddar bu actor Kingsman, Taron Egerton, yn llefaru enw’r pentref ar raglen Jonathan Ross – fe fu yntau’n byw yn Llanfairpwll yn blentyn cyn symud i Aberystwyth.

Mae sgwrs Taron Egerton yn dechrau am 16:15 ar y fideo isod: