Mae’r Pwyllgor Materion Cymreig wedi galw am gydlynu gwell rhwng y gwasanaethau gofal iechyd yn Lloegr a Chymru, i sicrhau fod cleifion yn derbyn yr un gofal o safon y maen nhw eu hangen lle bynnag maen nhw’n byw.

Yn ei adroddiad, Trefniadau Iechyd Dros y Ffin Rhwng Cymru a Lloegr, mae’r pwyllgor hefyd yn galw am ei gwneud yn haws i feddygon teulu gael gweithio yng Nghymru.

Mae’r pwyllgor yn annog Llywodraeth Cymru a San Steffan i weithio’n agosach er mwyn cael gwared a’r “rhwystrau” sy’n atal meddygon teulu rhag gweithio ar naill ochr y ffin rhwng Cymru a Lloegr.

Ers datganoli, meddai’r adroddiad, mae gwahaniaethau cynyddol wedi bod rhwng systemau gwasanaethau gofal iechyd Cymru a Lloegr sy’n effeithio pobl sy’n dibynnu ar gyfleusterau iechyd ar ddwy ochr y ffin.

Mae’r pwyllgor yn dweud bod y gwahaniaethau hyn yn achosi dryswch i rai cleifion sy’n croesi’r ffin i dderbyn gofal.

Dywed yr adroddiad ei bod yn hanfodol bod gwell cyfathrebu yn y dyfodol i sicrhau gwell cyd-weithredu yn y blynyddoedd i ddod.