Dr Harri Pritchard Jones, Llun: Llenyddiaeth Cymru
Mae’r awdur a’r seiciatrydd Dr Harri Pritchard Jones, oedd yn uchel ei barch ym meysydd meddyginiaeth a llenyddiaeth, wedi marw.

Roedd yn 81 oed ac wedi bod yn dioddef o ganser.

Roedd yn gyn-gadeirydd Llenyddiaeth Cymru ac yn awdur ar 15 o gyfrolau sy’n cynnwys nofelau, storïau a beirniadaethau fel Disgyn i’w Lle, Ar Y Cyrion a Cyffes Pabydd Wrth Ei Ewyllys.

Ganed ef yn Dudley, Swydd Gaerwrangon Lloegr yn 1933 ond fe gafodd ei fagu a’i addysg yn Ynys Môn ac yng Ngholeg y Drindod, Dulyn.

Bu’n gweithio fel meddyg ac fel seiciatrydd yn ardal Caerdydd ac yn ystod ei yrfa, fe wnaeth dderbyn sawl gwobr gan yr Eisteddfod Genedlaethol, Barn a Chymdeithas y Celfyddydau.

Roedd hefyd yn Gymrawd yr Academi Gymreig.

Mae’n gadael ei wraig, Lenna, a thri o blant, Guto, Nia ac Illtud, a phedwar o wyrion.

‘Dylanwad ac ysbrydoliaeth’

Wrth gofio amdano, dywedodd un o’i gyfeillion, yr awdur Sion Eirian: “Er ei fod e wedi bod yn llai amlwg dros y blynyddoedd diweddar, roedd Harri yn ffigwr blaengar a phwysig pan oeddwn i’n dechrau sgwennu yn y 70au a’r 80au.

“Roedd pob un ohonom ni ysgrifenwyr iau yn y cyfnod yn edrych at ei waith o i weld beth oedd e’n wneud a sut oedd e’n arbrofi hefo ffurfiau. Roedd o’n ddylanwad ac yn ysbrydoliaeth.

“Roedd o y tu allan i’r gyfundrefn ac i’r sefydliad ac mi roeddem ni’n ei edmygu fel llais gwahanol a llais mentrus, er ei fod e o genhedlaeth hŷn.”

‘Cyfraniad sylweddol’

Dywedodd Lleucu Siencyn, prif weithredwr Llenyddiaeth Cymru:  “Tristwch eithriadol oedd clywed am farwolaeth y Dr Harri Pritchard Jones. Bu’n Gadeirydd ar Academi, yr asiantaeth lenyddol a sefydlwyd yn 1998, ar y cyd â’r academydd a’r beirniad llenyddol John Pikoulis.

“Er mai cynrychioli’r adain Gymraeg o’r sefydliad oedd ei brif swyddogaeth, roedd Harri’n gredwr cryf ym mhwysigrwydd dod â’r ddwy lenyddiaeth at ei gilydd, a bu’n allweddol yn sefydlu digwyddiadau a chynadleddau dwyieithog dros Gymru.

“Cyfrannodd yn sylweddol i’r broses o sefydlu presenoldeb i lenyddiaeth yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, ac yn fwy diweddar bu Harri o gymorth mawr wrth greu’r sefydliad newydd, Llenyddiaeth Cymru, gan uno Canolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd ac Academi.

“Roedd yn frwd dros newid, a bu’n hynod gefnogol i minnau a’r staff wrth i ni lunio gweledigaeth newydd i Llenyddiaeth Cymru. Mae gan y staff yn Nhŷ Newydd a Chaerdydd atgofion melys iawn o Harri, ac mi fydd colled fawr ar ei ôl. Cydymdeimlwn yn ddwys â’i deulu.”