Guillermo Javier Thomas
Fe fydd dau berson ifanc o Batagonia yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd dros wefan Skype am y tro cyntaf erioed eleni.

Er bod cystadleuwyr wedi perfformio dros Skype o Bahrain a Singapore o’r blaen, dyma’r tro cyntaf i gyswllt gael ei wneud dros y we â Phatagonia yn ystod yr Eisteddfod.

Bydd Guillermo Javier Thomas a Florencia Giselle Zamareno yn cystadlu yn ystod Eisteddfod ranbarthol yr Urdd tu allan i Gymru, yn Llundain ar 14 Mawrth – Florencia yn cystadlu ar yr unawd offerynnol 19-25 oed,  a Guillermo yn cystadlu ar yr alaw werin unigol a’r llefaru unigol 19-25 oed.

‘Nerfus’

Mae Guillermo, sydd yn wreiddiol o’r Gaiman, yn cystadlu am y tro cyntaf ac fe fydd yn teithio i Gymru erbyn Eisteddfod yr Urdd Caerffili a’r Cylch, boed yn ennill yn yr Eisteddfod ranbarthol ai peidio.

Dywedodd: “Dwi’n meddwl ei bod yn ddiddorol sut yr ydym yn defnyddio’r rhwydweithiau cymdeithasol i fyrhau pellteroedd – ac yn yr achos yma, rhoi cyfle i mi gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd.

“Rwyf ychydig bach yn nerfus o ran sut fydd y dechnoleg yn gweithio – ac os gall y beirniaid wir werthfawrogi’r perfformiad yn defnyddio camera a microffon ar gyfrifiadur.  Mi fyddaf yn canu ac yn adrodd yn fy fflat yn La Planta, Buenos Aires ble rydw i yn mynd i’r Brifysgol, yn gwybod efallai y bydd y cymdogion yn gallu fy nghlywed a ddim yn deall unrhyw beth!”

Technoleg

Bydd cyflwynwraig The One Show Alex Jones yn agor yr Eisteddfod yn swyddogol gyda Gillian Elisa Thomas, sy’n actio cymeriad ‘Grandma’ yn sioe gerdd Billy Elliott, yn beirniadu.

Dywedodd Leah Owen-Griffiths, trefnydd yr Eisteddfod tu allan i Gymru: “Rydym yn gyffrous iawn fod gennym ddau eleni yn cystadlu dros Skype o’r Wladfa – mae’n braf fod y dechnoleg gennym bellach fel bod aelodau o bob cornel o’r byd yn gallu cystadlu yn yr Eisteddfod.”