Richard Harrington yn Y Gwyll
Bydd Gweinidog Swyddfa Cymru Alun Cairns heddiw yn galw ar ddarlledwyr ar draws y DU a’r byd i brynu mwy o raglenni Cymraeg er mwyn rhoi hwb i’r economi.
Bydd Alun Cairns yn gwneud yr alwad mewn uwchgynhadledd ddarlledu yn y Doctor Who Experience ym Mae Caerdydd, sy’n dod â darlledwyr a gwneuthurwyr rhaglenni annibynnol o Gymru a’r DU at ei gilydd.
Y bwriad yw ceisio dod o hyd i ffyrdd o gynyddu nifer y rhaglenni o Gymru sydd ar y teledu.
Bydd yn annog gwneuthurwyr rhaglenni i arddangos ansawdd cynyrchiadau annibynnol yng Nghymru a gofyn i ddarlledwyr egluro sut y maen nhw’n comisiynu gwaith ac esbonio sut i fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael.
‘Potensial enfawr’
Yn ôl Alun Cairns, mae’r sector diwydiannau creadigol yng Nghymru yn llwyddiant byd-eang ac yn sbarduno twf. Mae’n cyflogi dros 50,000 o bobl ac yn creu trosiant blynyddol o dros £1 biliwn.
Dywedodd Alun Cairns: “Mae cwmnïau teledu Cymru yn cynhyrchu rhai o’r rhaglenni mwyaf cyffrous yn y DU ar hyn o bryd ac mae gan y sector botensial enfawr i dyfu.
“Mae rhaglenni fel Y Gwyll a The Indian Doctor eisoes wedi dangos ansawdd yr hyn sydd gennym i’w gynnig, ond rwyf am ehangu’r posibiliadau o gomisiynau rhyngwladol ac ar draws y DU i ragor o wneuthurwyr rhaglenni Cymru. Mae angen i ni fod yn uchelgeisiol.
“Bydd uwchgynhadledd heddiw yn helpu cwmnïau cynhyrchu yng Nghymru i ffynnu drwy sicrhau eu bod yn cael eu cysylltu â’r marchnadoedd ehangaf posibl.”