Warren Gatland
Mae Warren Gatland wedi cadw ffydd â’r tîm drechodd Ffrainc yn eu gêm ddiwethaf, gan wneud dim un newid i dîm Cymru fydd yn herio Iwerddon dydd Sadwrn.

Mae’r hyfforddwr wedi cadw ffydd gyda’r pymtheg chwaraewr ddechreuodd y gêm ddiwethaf wrth iddyn nhw baratoi i groesawu’r Gwyddelod i Stadiwm y Mileniwm.

Mae’n golygu nad oes lle unwaith eto i Alex Cuthbert, a gollodd ei le ar yr asgell ar gyfer y gêm yn erbyn Ffrainc, ond mae Samson Lee, Scott Baldwin a Luke Charteris yn cadw eu lle ar ôl cael chwarae’n dda ym Mharis pythefnos yn ôl.

Ond mae dau newid ar y fainc, gyda Rob Evans yn dod i mewn yn lle Paul James a Jake Ball yn cael ei enwi yn lle Bradley Davies.

Bydd Sam Warburton yn gapten ar y tîm am y 34ain gwaith, gan dorri record Ryan Jones am y nifer o weithiau yn arwain ei wlad, ac fe fydd y prop Gethin Jenkins yn ennill cap rhif 114.

Dim angen newid

Mae angen buddugoliaeth ar Gymru os ydyn nhw eisiau cadw eu gobeithion o ennill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn fyw.

Ond y Gwyddelod sydd wedi creu’r fwyaf o argraff yn y twrnament eleni hyd yn hyn, a nhw fydd y ffefrynnau yng Nghaerdydd dros y penwythnos.

Fe esboniodd Warren Gatland fod perfformiadau Cymru wedi gwella’n sylweddol yn y ddwy fuddugoliaeth ddiwethaf dros Ffrainc a’r Alban, sydd yn esbonio pam ei fod wedi cadw ffydd â’r un chwaraewyr.

“Rydyn ni’n dychwelyd i Stadiwm y Mileniwm ar ôl dwy fuddugoliaeth mewn gêm anodd oddi cartref ac rydyn ni eisiau adeiladu ar hynny,” meddai Gatland.

“Fe welson ni welliant yn erbyn yr Alban ac yn cam arall lan yn erbyn Ffrainc ac rydyn ni’n gwybod fod angen yr un peth arnom ni yn erbyn Iwerddon dydd Sadwrn.

“Iwerddon yw’r tîm gorau yn Ewrop ar hyn o bryd ac rydyn ni’n gwybod y bydd hi’n frwydr.

“Mae’r newidiadau ar y fainc yn golygu bod Rob Evans yn cael cyfle. Mae e wedi gwneud yn dda i’w ranbarth ac yn ystod yr ymarferion. Mae Jake [Ball] hefyd yn dychwelyd i’r garfan, gan ddangos y dyfnder sydd gennym ni yn yr ail reng.

“Bydd dydd Sadwrn yn gyrhaeddiad arbennig ac yn fraint i Sam [Warburton]. Mae e wedi datblygu mewn i’r rôl yn wych ac mae e’n broffesiynol iawn. Mae e’n rôl fodel ac fe fydd e’n parhau i wella.”

Tîm Cymru i wynebu Iwerddon

Leigh Halfpenny, George North, Jonathan Davies, Jamie Roberts, Liam Williams, Dan Biggar, Rhys Webb, Gethin Jenkins, Scott Baldwin, Samson Lee, Luke Charteris, Alun Wyn Jones,  Dan Lydiate, Sam Warburton, Taulupe Faletau.

Eilyddion: Richard Hibbard, Rob Evans, Aaron Jarvis, Jake Ball, Justin Tipuric, Mike Phillips, Rhys Priestland, Scott Williams.