Angel Rangel
Mae amddiffynnwr Abertawe Angel Rangel wedi ymestyn ei gytundeb gyda’r clwb am ddwy flynedd arall nes 2017.
Ers ymuno â’r Elyrch o Terrassa yn 2007 mae’r Sbaenwr 32 oed wedi chwarae 315 o weithiau dros y clwb, ac roedd ganddo flwyddyn ar ôl ar ei gytundeb.
Ond fe fyddai aros nes 2017 yn golygu bod Rangel yn cwblhau degawd o chwarae dros yr Elyrch, gan efelychu Leon Britton a’i reolwr presennol Garry Monk.
‘Ysbrydoliaeth’
Fe arwyddodd Rangel i Abertawe pan oedd y clwb dal yng Nghynghrair Un, ac ers hynny mae wedi gweld yr Elyrch yn ennill dau ddyrchafiad a sefydlu eu hunain yn yr Uwch Gynghrair.
Mae’r clwb hefyd wedi ennill Cwpan Capital One yn ogystal â chwarae pêl-droed Ewropeaidd yn ystod y cyfnod hwnnw.
Wrth gyhoeddi’r newyddion ar wefan y clwb heddiw, fe ddywedodd Rangel fod chwaraewyr fel Britton a Monk wedi ei ysbrydoli i aros yn Abertawe mor hir â phosib.
“Mae bod yn rhan o’r clwb yma am ddwy flynedd arall yn newyddion gwych i mi,” meddai Rangel.
“Rydw i wedi anelu at chwarae i Abertawe am ddeng mlynedd. Mae gweld pobl fel Leon [Britton], Tatey [Alan Tate] a Garry [Monk] yn cyrraedd deng mlynedd o wasanaeth i’r clwb wedi bod yn ysbrydoliaeth – maen nhw wedi rhoi gwasanaeth gwych i’r clwb.”
Cymro
Mae’r Sbaenwr bellach wedi llwyr ymgartrefu yn Abertawe, ac roedd hyd yn oed sôn yn 2012 y gallai chwarae dros dîm cenedlaethol Cymru petai dim cytundeb yn atal hynny rhwng gwledydd Prydain.
Mae wedi dweud yn y gorffennol ei fod yn ystyried ei hun yn Gymro hefyd bellach, a’i fod yn awyddus i aros yn yr ardal ar ôl ymddeol o’i yrfa bêl-droed.
“Fe allen i sgwennu llyfr am fy amser i yma,” meddai Rangel. “Fe wnes i gyrraedd yma ddim yn siarad unrhyw Saesneg, roedd y clwb yng Nghynghrair Un a heb gae ymarfer.
“Nawr rydw i wedi priodi merch o Gymru ac mae gennym ni blant, ac ar y cae rydyn ni wedi cael dwy ffeinal yn Wembley, pedwar tymor yn yr Uwch Gynghrair a mwynhau chwarae yng Nghynghrair Ewropa.
“Rydw i wedi mwynhau pob munud o fy amser yma. Mae’r clwb wedi dod mor bell yn ystod yr amser dw i wedi bod yn rhan ohoni, ac rydw i eisiau bod yn rhan o lwyddiant y clwb yn y dyfodol hefyd.”
Brwydro am le
Mae Rangel yn parhau i frwydro am le yn y tîm cyntaf, er gwaetha’r ffaith bod Kyle Naughton bellach yn ddewis cyntaf fel y cefnwr dde.
Ond mae’r Sbaenwr wedi bod gyda’r clwb digon hir bellach i wybod na all unrhyw un ddibynnu ar le yn y tîm bob wythnos – gan werthfawrogi’r cyfle mae’n ei gael.
“Dydw i ddim yn hoffi cwyno – rydw i wedi bod yn ddigon ffodus i chwarae’n gyson dros wyth mlynedd a llwyddo yn bersonol a gyda’r clwb,” esboniodd Rangel.
“Pan mae’r clwb yn gwneud penderfyniad mae’n rhaid i chi dderbyn e ac mae’n rhaid dangos i’r rheolwr eich bod chi’n barod i chwarae pan fydd eich angen chi.”