Jonathan Davies
Mae canolwr Cymru Jonathan Davies wedi dweud y bydd Jonathan Sexton yn allweddol i’r canlyniad rhwng y ddau dîm pa fyddan nhw’n cwrdd ddydd Sadwrn.

Ac er y bydd Jonathan Davies yn wynebu’r maswr Gwyddelig yn Stadiwm y Mileniwm, mae ganddo hefyd brofiad uniongyrchol o chwarae ochr yn ochr ag o ar daith y Llewod yn 2013 pan wnaeth y ddau ddechrau’r tri phrawf.

Meddai Jonathan Davies: “Yn amlwg, fo yw eu cadfridog nhw.

“Sylwais hynny yn Awstralia. Roedd o’n disgwyl safonau uchel pan oedden ni’n hyfforddi.

“Roedd yn gwybod ei rôl o ac yn disgwyl i bawb arall wybod hefyd.

“Dyna beth yw rygbi proffesiynol a Sexton yw un o’r rhai gorau yn y byd ar hyn o bryd.”

Mae Jonathan Sexton  yn ganolog i obeithion y Gwyddelod o gadw teitl y Chwe Gwlad a mynd am Gamp Lawn.

Byddai buddugoliaeth yn erbyn Cymru yn gadael Iwerddon gydag un gêm yn unig o sicrhau’r ddau.

Mae disgwyl i Warren Gatland enwi ei dîm am y gêm am 11 heddiw.