Mae clwb pêl-droed Caerdydd heddiw wedi dadorchuddio arfbais newydd fydd yn ymddangos ar ei grysau’r tymor nesa.
Mae’r arfbais newydd yn dilyn penderfyniad gan berchennog y clwb, Vincent Tan, i newid lliw crys cartref y chwaraewyr yn ôl i las.
Roedd penderfyniad Vincent Tan, o Falaysia, i newid lliw crysau’r clwb i goch wedi cythruddo cefnogwyr.
Meddai’r clwb mewn datganiad eu bod nhw wedi bwriadu cyflwyno arfbais y gall “pawb sy’n gysylltiedig â’r clwb uniaethu gydag o.”
Mae dyluniad newydd yr arfbais yn seiliedig ar yr un oedd ar grysau’r tîm wnaeth ennill Cwpan yr FA yn 1927 – yr unig adeg i’r gwpan gael ei hennill gan dîm y tu allan i Loegr.
Mae’r arfbais newydd hefyd yn cynnwys draig ddwyreiniol yn seiliedig ar yr un sydd ar Neuadd Dinas Caerdydd i ddathlu’r cysylltiad Asiaidd gyda’r clwb ac mae aderyn glas yng nghanol y dyluniad.