Joe Allen
Mae llai na thair wythnos i fynd nawr nes gêm nesaf Cymru yn erbyn Israel – felly maddeuwch i Cip ar y Cymry os ydan ni’n canolbwyntio llai ar ba chwaraewr wnaeth yn dda dros y penwythnos, a mwy ar bwy ddaeth drwyddo heb unrhyw anafiadau.

Yn ffodus fe gafodd ambell un o’r chwaraewyr, gan gynnwys Ashley Williams a Neil Taylor y penwythnos i ffwrdd oherwydd bod eu timau nhw allan o Gwpan FA Lloegr.

Dim ond un gêm gafodd ei chwarae yn Uwch Gynghrair Lloegr, gyda Ben Davies yn cael 90 munud ar y cae i Spurs wrth iddyn nhw drechu QPR 2-1 i godi i’r chweched safle yn y tabl.

Draw yn Sbaen fe ddaeth Gareth Bale drwy gêm lawn i Real Madrid, ond yn anffodus iddo fe colli 1-0 wnaethon nhw i Athletic Bilbao – a’r Cymro’n taro’r postyn gydag ergyd o 50 llathen!

Fe fethodd Joe Allen gêm Lerpwl yng Nghwpan FA dros y penwythnos gydag anaf, ond ar hyn o bryd dyw hi ddim yn edrych fel ei fod digon difrifol i’w achosi i fethu’r trip i Israel.

Cafodd Chris Gunter ei adael ar y fainc wrth i Reading gael gêm gyfartal yn erbyn Bradford yn y Gwpan, ond fe chwaraeodd Hal Robson-Kanu 66 munud cyn cael ei eilyddio.

Ac fe allai Aaron Ramsey chwarae heno dros Arsenal yn erbyn Man United wrth i’r ddau glwb herio’i gilydd yn yr olaf o gemau wyth olaf y Gwpan.

Y Bencampwriaeth

Yn y Bencampwriaeth colli wnaeth Caerdydd o 2-1 yn erbyn Charlton a hynny er eu bod nhw wedi mynd ar y blaen.

Cafodd Morgan Fox gêm lawn i Charlton, gyda Simon Church hefyd yn dod oddi ar y fainc ac yn ennill y gic o’r smotyn tyngedfennol i ennill y gêm i’w dîm.

Chwaraeodd David Cotterill gêm lawn i Birmingham hefyd, ac fe fydd yn falch o fod wedi bod ar y cae nes y diwedd ar ôl gweld ei dîm yn cipio pwynt yn Derby gyda dwy gôl yn y munudau olaf.

Colli oedd hanes Joel Lynch a Huddersfield o 2-0 yn erbyn Rotherham, ac fe wyliodd David Vaughan o’r fainc wrth i Nottingham Forest guro Middlesbrough.

Gwylio o’r fainc oedd Dave Edwards hefyd wrth i Wolves gael gêm gyfartal yn erbyn Fulham, ac mae Lee Evans yn parhau i fod allan o’r tîm.

Yng Nghynghrair Un doedd Tom Bradshaw a Walsall methu canfod eu ffordd heibio i Lewin Nyatanga yn amddiffyn Barnsley, gyda’r Tykes yn ennill y gêm o 3-0.

Yng ngemau eraill y gynghrair fe chwaraeodd Lewis Price, Gwion Edwards, Lee Fowler, Chris Maxwell, James Wilson, Elliott Hewitt a Josh Pritchard.

Ymysg y chwaraewyr fethodd gemau i’w clybiau oherwydd anaf roedd Adam Matthews (Celtic) a George Williams (MK Dons).

Ac yn olaf, siomedig oedd clywed fod Owain Tudur Jones wedi gorfod ymddeol o bêl-droed proffesiynol oherwydd yr anaf diweddaraf i’w ben-glin – a phob lwc iddo yn y dyfodol, gyda gwaith yn y cyfryngau yn debygol o ddilyn.

Seren yr wythnos – Simon Church. Sêr yn brin yr wythnos yma, felly Seimon sydd yn ei chael hi am y cyfraniad arweiniodd at dri phwynt i’w dîm.

Siom yr wythnos – Gareth Bale. Wyth gêm heb sgorio bellach i Real Madrid, ei rediad hiraf heb goliau i’r clwb (ond y siom fwyaf oedd ddim gweld y roced yma a daniodd o hanner ffordd yn taro cefn y rhwyd!).