Leanne Wood
Fe fydd rhai gwasanaethau cyhoeddus yn peidio â bod yn gyfan gwbl os na fydd newid ym mholisïau cyni Llywodraeth Prydain.

Dyna fydd rhan o neges arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wrth iddi annerch cynhadledd wanwyn y blaid yng Nghaernarfon.

Ac fe fydd yn egluro beth fyddai Plaid Cymru’n ei wneud pe bai hi’n dal y fantol mewn senedd grog ar ôl yr Etholiad Cyffredinol.

Tri o’r prif ofynion fyddai chwarae teg o ran cyllid o Lundain, cael gwared ar drethi busnes i 70,000 o fusnesau bach a gosod yr isafswm cyflog ar yr un lefel â ‘chyflog byw’ – £7.85 yr awr.

‘Torri  at yr asgwrn’ – dyfyniadau

“Mae polisi cyni Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwneud cam llwyr â phobol gyffredin,” meddai, Leanne Wood mewn dyfyniadau sydd wedi eu gollwng ymlaen llaw.

“Bellach mae hynny’n golygu bod cwestiynau gwirioneddol a fydd rhai gwasanaethau cyhoeddus yn ein cymunedau lleol yn bod o gwbl ar ôl yr etholiad nesa’.

“R’yn ni wedi cael ein torri at yr asgwrn eisoes … ac eto mae pleidiau San Steffan i gyd wedi cytuno i gefnogi pum mlynedd arall o doriadau.

“Does dim syndod fod dicter tuag at y Llywodraeth Geidwadol yn fwy na’r hyn dw i wedi ei weld ers dyddiau Thatcher.”