Trefor Lloyd Hughes
Mae llywydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi mynegi ei ddicter yn dilyn adroddiadau fod Lloegr am geisio cyflwyno tîm pêl-droed Prydeinig ar gyfer Gemau Olympaidd Rio 2016.
Dywedodd Trefor Lloyd Hughes ei fod yn “gandryll” gyda’r newyddion, gan gyhuddo’r awdurdodau pêl-droed yn Lloegr o dorri addewidion i gymdeithasau pêl-droed eraill ynysoedd Prydain.
Pan gafodd tîm pêl-droed GB ei sefydlu ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain 2012 fe wrthododd Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon gefnogi’r syniad.
Ond wnaeth Cymru ddim atal pump o’u chwaraewyr nhw rhag cael eu dewis yn y tîm, ac fe ddywedodd Cymdeithas Bêl-droed Lloegr (FA) ar y pryd mai dim ond unwaith y byddai hynny’n digwydd.
Cystadlu eto
Bellach mae’n ymddangos fod y safbwynt hwnnw wedi newid, gyda’r FA nawr wedi ysgrifennu at wledydd eraill Prydain i holi a fyddan nhw’n hoffi cystadlu gyda’i gilydd yng Ngemau Olympaidd y flwyddyn nesaf.
Ac mae hynny wedi cythruddo llywydd CBDC – sydd eisoes yn anhapus â Lloegr am dorri cytundeb arall a sefyll yn ei erbyn ar gyfer swydd is-lywydd ar bwyllgor gweithredol FIFA.
“Rydw i’n siomedig tu hwnt efo FA Lloegr – yn siomedig iawn, iawn,” meddai Trefor Lloyd Hughes wrth PA Sport.
“Os ydyn nhw eisiau gweithio efo ni mae’n rhaid iddyn nhw fod yn fwy agored gyda ni a dydyn nhw ddim i’w weld yn awyddus i gadw at gytundebau. Dw i’n gandryll am y peth.
“Cyn belled ag y mae’r Gemau Olympaidd yn y cwestiwn dydi hi ddim yn bell yn ôl ers iddyn nhw ddweud y byddai Llundain 2012 yn ‘one off’.
“Rŵan mae’n edrych fel tasa nhw wedi penderfynu eu hunain i roi tîm i mewn heb drafod y peth efo ni.
“Dw i ddim yn meddwl fyddwn ni’n gallu blocio’r peth, ond pam fod Seb Coe a Chymdeithas Olympaidd Prydain wedi mynd at Loegr?
“Cymdeithas Olympaidd Prydain ydi hi i fod, nid Cymdeithas Olympaidd Lloegr.”
Ceidwadwr yn croesawu
Ar y llaw arall, mae arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru Andrew RT Davies wedi croesawu’r syniad o gael tîm pêl-droed GB yng Ngemau Olympaidd Rio 2016.
Dywedodd fod chwaraewyr Cymru fel Aaron Ramsey, Joe Allen a Neil Taylor, gymrodd ran yn y twrnament dair blynedd yn ôl, wedi elwa o’r profiad.
Cyhuddodd genedlaetholwyr Cymreig o godi bwganod adeg y Gemau yn Llundain 2012, gan ddweud nad oedd yn gweld problem gyda’r tîm cyn belled â bod dyfodol y gwledydd unigol mewn pêl-droed rhyngwladol yn cael ei sicrhau.
“Cyn belled na fydd annibyniaeth tîm Cymru’n cael ei effeithio wrth gymryd rhan yn nhîm GB yng Ngemau Olympaidd Rio flwyddyn nesaf, fe fuaswn i o blaid ei weld yn dychwelyd yn 2016,” meddai Andrew RT Davies.
“Yn y bôn mae’r rhan a chwaraeodd cymaint o chwaraewyr gorau Cymru yn 2012 wedi bod o fudd enfawr i Chris Coleman yn yr ymgyrch bresennol gan fod profiad o dwrnament mawr yn amhrisiadwy.
“Fel Cymro balch bydd fy nheyrngarwch i wastad i dîm Cymru yn gyntaf, ond fel llawer o gefnogwyr eraill fe fuaswn i’n falch iawn o gyfle arall i gefnogi tîm Prydain mewn Gemau Olympaidd.
“Pedair blynedd yn ddiweddarach fe allwn ni ddweud nad oedd sail i’r codi bwganod gan wleidyddion cenedlaetholgar yng Nghymru a thu hwnt. Ni ddigwyddodd y trychineb roedden nhw’n ei ddarogan ac roedd gwaddol y prosiect tîm GB yn un positif tu hwnt.”