Aaron Ramsey
Mae Aaron Ramsey nôl yng ngharfan Arsenal ar ôl gwella o anaf i linyn y gâr, ac fe allai chwarae yn erbyn QPR yn yr Uwch Gynghrair nos fory.

Bydd y newyddion yn hwb i reolwr Cymru Chris Coleman, sydd yn paratoi ar gyfer gêm ragbrofol Ewro 2016 allweddol yn erbyn Israel ar ddiwedd y mis.

Mae Ramsey wedi bod allan ers 10 Chwefror ar ôl anafu’r cyhyr am y trydydd gwaith y tymor hwn mewn gêm yn erbyn Caerlŷr.

Ers hynny mae’r Cymro 24 oed wedi methu pedair gêm i Arsenal gan gynnwys buddugoliaethau dros Everton a Crystal Palace yn y gynghrair a Middlesbrough yng Nghwpan FA Lloegr, a cholled i Monaco yng Nghynghrair y Pencampwyr.

Gêm hollbwysig

Roedd pryder i ddechrau y gallai’r anaf ei gadw allan tan ddiwedd mis Mawrth, felly fe fydd hi’n rhyddhad i Coleman ei weld yn ôl mewn da bryd ar gyfer gêm Cymru.

Mae gan y Gunners bum gêm arall i ddod y mis yma cyn i Ramsey a’r chwaraewyr eraill adael i ymuno â’u carfannau rhyngwladol.

Bydd y gêm yn Israel ar 28 Mawrth yn hollbwysig i Gymru yn eu hymdrechion i gyrraedd Ewro 2016, gan fod eu gwrthwynebwyr ar frig y grŵp rhagbrofol ar ôl ennill tair gêm allan o dair.

Cymru sydd yn ail yn y grŵp gydag wyth pwynt o’u pedair gêm gyntaf, tra bod Gwlad Belg, Cyprus a Bosnia-Herzegovina hefyd yn gobeithio sicrhau eu lle yn y twrnament yn Ffrainc.

Yr unig Gymry sydd yn sicr o fethu’r gêm oherwydd anafiadau yw’r amddiffynnwr Paul Dummett a’r chwaraewr canol cae Emyr Huws.

Ond mae amheuon hefyd dros ffitrwydd yr amddiffynnwr James Chester, sydd dal heb wella ar ôl datgymalu ei ysgwydd ym mis Ionawr.