Alex Cuthbert
Mae Cymru wedi rhyddhau 12 o’u chwaraewyr gan gynnwys yr asgellwr Alex Cuthbert yn ôl i’w rhanbarthau ar gyfer gemau’r penwythnos yma.
Cafodd Cuthbert ei adael allan o’r tîm i wynebu Ffrainc dros y penwythnos wrth i George North ddychwelyd ar ôl cyfergyd a Liam Williams gadw’i le yn y tîm.
Bydd Cuthbert, yn ogystal â Kristian Dacey, Scott Andrews, Gareth Anscombe a Cory Allen, i gyd ar gael i’r Gleision ar gyfer eu gêm nhw yn erbyn Connacht yn y Pro12 nos Wener.
Mae’r blaenasgellwr Justin Tipuric, y prop Aaron Jarvis a’r blaenwyr James King i gyd wedi dychwelyd i’r Gweilch wrth iddyn nhw baratoi i groesawu Munster ddydd Sadwrn.
Bydd Rhys Priestland, Scott Williams a Gareth Davies ar gael i’r Scarlets wrth i Leinster ymweld â Pharc y Scarlets dydd Sul, ac fe allai Hallam Amos chwarae dros y Dreigiau gartref yn erbyn Ulster dydd Sul.
Mae gan Gymru obaith o hyd o gipio Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn dilyn eu buddugoliaeth draw yn Ffrainc, gydag Iwerddon hefyd yn llwyddo i drechu Lloegr dros y penwythnos.
Ond fe fydd yn rhaid i fechgyn Warren Gatland mwy na thebyg ennill yn erbyn Iwerddon yn ogystal â threchu’r Eidal yn gyfforddus ar y penwythnos olaf os am unrhyw obaith o gipio’r tlws.