Mae’n bosib na fydd tîm pêl-droed sy’n cynrychioli Cymru yn cystadlu yn y Gemau Olympaidd y flwyddyn nesaf, wedi i’r Gymdeithas Bêl-droed (FA) gyhoeddi bwriad i greu tîm Prydeinig.

Mae’r FA wedi ysgrifennu at gymdeithasau yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon i ofyn a fyddai diddordeb yn y syniad.

Nid yw Cymru wedi ymateb hyd yn hyn, ond mae’r cyhoeddiad wedi creu dicter ymysg arweinwyr Cymdeithas Bêl-droed Cymru sy’n pryderu y byddai’n bygwth statws y wlad o fewn y gêm.

Fe gafodd tîm GB dynion a merched ei sefydlu ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain 2012 er bod y tair cymdeithas wedi gwrthod cymryd rhan yn swyddogol.

Roedd pump o Gymry yng ngharfan y dynion – Ryan Giggs, Aaron Ramsey, Craig Bellamy, Joe Allen a Neil Taylor – gyda’r gweddill yn chwaraewyr o dîm Lloegr.

Roedd dwy o’r Alban, Ifeoma Dieke a Kim Little, yn nhîm y merched.

Mae’n debyg bod yr FA yn benodol awyddus i greu tîm merched ar gyfer Gemau Rio de Janeiro, er mwyn datblygu’r gêm ym Mhrydain, ond byddai hynny’n arwain at orfod creu tîm dynion hefyd.