Fe all Cymru fod yn hyfforddi ei dîm seiclo proffesiynol ei hun erbyn 2016 gyda seiclwr yn cystadlu ar ran y wlad yn ras y Tour de France wedi hynny.

Cafodd y cynlluniau gan We Are Wales Pro Cycling, gafodd ei sefydlu gan Eifion Weinzweig o Ben-y-bont ar Ogwr, eu lansio heddiw.

Wrth i sawl Cymro a Chymraes fel Geraint Thomas a Becky James serennu ym myd seiclo yn ddiweddar, mae We Are Wales yn amlinellu bwriad i weld rhywun yn gwisgo coch, gwyn a gwyrdd yn ras seiclo fwyaf enwog y byd, y Tour de France.

Nid yw enwau’r seiclwyr ar gyfer tymor 2016 wedi cael eu cyhoeddi hyd yn hyn gan fod y rhan fwyaf o athletwyr ynghlwm wrth gytundebau eraill yn 2015, ond mae We Are Wales wedi sicrhau gwasanaethau’r staff cefnogol.

Balchder

Fe fydd y tîm yn cael ei leoli yng ngogledd Ffrainc o dan arweiniad Cyfarwyddwr Perfformiad y sefydliad Yann Dejan.

“Ein bwriad yr holl amser yw creu rhywbeth arbennig iawn ar gyfer pobol Cymru, tîm fydden nhw’n falch o’i gefnogi,” meddai Eifion Weinzweig, 27.