Mae dros 34,000 o bobl yn mynd i’r ysbyty bob blwyddyn gydag achosion yn ymwneud â chamddefnyddio alcohol, yn ôl y Dirprwy Weinidog Iechyd Vaughan Gething.

Ychwanegodd Vaughan Gething fod hyn yn costio £109m bob blwyddyn i’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, wrth siarad mewn cynhadledd ynglŷn â niwed ymenyddol o ganlyniad i alcohol heddiw.

Daw hyn wrth i ffigyrau hefyd ddangos bod 42% o oedolion yng Nghymru yn yfed mwy o alcohol nag sydd yn cael ei argymell o leiaf unwaith yr wythnos.

Dangosodd ffigyrau fis diwethaf bod 467 o farwolaethau wedi bod yng Nghymru yn 2013 oedd yn ymwneud ag alcohol.

O’r rheiny oedd yn gorfod mynd i’r ysbyty mewn achosion oedd yn ymwneud ag alcohol yn 2012-13, roedd 21,700 yn ddynion a 12,300 yn fenywod.

Llywodraeth Cymru’n ymateb

Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn edrych ar geisio cyflwyno pris isafswm ar gyfer gwerthu alcohol.

Ac fe ddywedodd y Dirprwy Weinidog Vaughan Gething y byddai’r llywodraeth yn buddsoddi £50m dros y flwyddyn nesaf i geisio taclo problemau yn ymwneud â chamddefnyddio alcohol a chyffuriau yn sgil hyn.

“Mae tystiolaeth gref bod camddefnyddio alcohol yn arwain at niwed i iechyd a niwed cymdeithasol, yn enwedig i’r lleiafrif sylweddol o bobl sy’n yfed gormod ac nad ydynt yn cydnabod y niwed y maent yn ei wneud iddynt hwy eu hunain ac i eraill,” meddai Vaughan Gething.

“Er y cafwyd tuedd ar i lawr at ei gilydd yn nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig ag  alcohol yng Nghymru ers 2008, mae’r ffaith bod pobl yn marw o ganlyniad i yfed gormod o alcohol yn ein hatgoffa o’r heriau sydd o’n blaenau wrth fynd i’r afael ag achosion ac effeithiau camddefnyddio sylweddau.

“Mae pob un o’r marwolaethau hyn yn drasiedi personol i’r unigolion a’u teuluoedd a’u cyfeillion ac yn dangos pwysigrwydd meddu ar wasanaethau ymatebol o ansawdd dda ar gyfer trin problemau alcohol.

“Ers 2008, cafwyd gostyngiad cyffredinol mewn amseroedd aros ar gyfer asesiad a thriniaeth. Mae cynhadledd heddiw ynghylch niwed i’r ymennydd sy’n gysylltiedig ag alcohol hefyd yn bwysig gan ei bod yn ein helpu i wella diagnosis a pharhau i ddatblygu ymatebion a seilir ar dystiolaeth i oblygiadau camddefnyddio alcohol i raddau gormodol.

“Rwyf yn benderfynol bod rhaid inni beidio â llaesu dwylo a bod rhaid inni ymchwilio i’r holl ysgogiadau polisi sydd ar gael inni er mwyn lleihau’r niwed y mae camddefnyddio sylweddau yn eu hachosi i’r gymdeithas gyfan.”