Roedd dathliadau Gŵyl Ddewi yng nghanol dinas Abertawe ddoe yn llwyddiant ysgubol, gydag Aelod Cynulliad ac ymgeisydd seneddol ymhlith y rhai fu’n canmol y digwyddiadau.
Cafodd Gŵyl AberDewi ei chynnal am y tro cyntaf eleni ac fe fu gwledd o adloniant yn Sgwâr y Castell a lleoliadau eraill, gan gynnwys yr orymdaith Gŵyl Ddewi gyntaf ers chwarter canrif.
Cafodd y syniad o gynnal digwyddiad o’r fath ei grybwyll yn ystod Fforwm Iaith Abertawe ac fe fu’r trefnwyr – yn gyfuniad o Gymry Cymraeg a Chymry di-Gymraeg – wrthi’n paratoi ers rhai misoedd.
Ymhlith aelodau’r Fforwm ddaeth at ei gilydd roedd cynrychiolwyr o faes Cymraeg i Oedolion, busnesau lleol, dysgwyr a selogion canolfan Tŷ Tawe.
Fe fu Menter Iaith Abertawe yn allweddol yn y trefniadau, gan gydweithio â phlant a phobol ifanc i greu fflachdorf arbennig o ganeuon Cymraeg yn Sgwâr y Castell ac yn Amgueddfa’r Glannau.
Ymhlith yr artistiaid a berfformiodd roedd cystadleuydd ar raglen y BBC ‘The Voice’ eleni Shelleyann Evans, Lowri Evans, Catrin Herbert, Côr Tŷ Tawe a Chôr Cefnogwyr y Gweilch.
Gadawodd gorymdaith o ychydig gannoedd o bobol Sgwâr y Castell gan orffen yn Amgueddfa’r Glannau, lle cafodd gweithgareddau plant a theuluoedd eu cynnal.
Ar ddiwedd y gweithgareddau, cafodd gêm fawr Cymru yn erbyn Ffrainc ei dangos ar sgrîn fawr yn y Sgwâr.
Canmoliaeth
Wrth ymateb i’r diwrnod, dywedodd Aelod Cynulliad Dwyrain Abertawe, Mike Hedges ar ei dudalen Twitter: “Dydd Gwyl Dewi hyfryd yn sgwar castell Abertawe.”
Mewn neges arall, dywedodd: “Digwyddiadau Dydd Gwyl Dewi wedi creu argraff yn sgwar castell Abertawe. Da iawn i’r South Wales Evening Post, Menter Iaith a Chyngor Abertawe.”
Un o’r perfformwyr eraill ar y diwrnod, ynghyd â’i band gwerin, oedd ymgeisydd seneddol Llafur dros Benrhyn Gŵyr, Liz Evans, a ddywedodd fod AberDewi’n “ddigwyddiad gwych”.