Cameron a Clegg yng Nghaerdydd heddiw.
Mae pleidiau gwleidyddol Cymru wedi rhoi croeso cymysg i gyhoeddiad David Cameron a Nick Clegg heddiw ar ddatganoli rhagor o bwerau i Fae Caerdydd.
Bydd Cymru’n cael y grym i benderfynu ar brosiectau ynni mawr, ffracio a threfniadau etholiadau – gan gynnwys pleidleisiau i bobol ifanc 16 oed.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones ei fod yn croesawu’r cyhoeddiadau mewn rhai “meysydd penodol”, ond ei fod yn anhapus nad oedden nhw’n mynd mor bell â Llafur mewn meysydd eraill gan gynnwys yr heddlu.
Mynnodd arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru Andrew RT Davies fod Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb wedi gwneud gwaith da yn dod a dyheadau pawb at ei gilydd yn dilyn trafodaethau trawsbleidiol.
Disgrifiodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood y cynlluniau fel rhai “diffygiol iawn” oedd ddim yn mynd i’r afael â’r broblem o dangyllido Cymru.
Ac fe alwodd grŵp pwyso YesCymru ar i Stephen Crabb ymddiswyddo am “fethu Cymru a’i phobl unwaith eto”.
‘Dim ond rhan o’r ffordd’
Wrth ymateb i gyhoeddiad Dydd Gŵyl Dewi Llywodraeth Prydain ar ddatganoli mwy o bwerau i Gymru, fe ddywedodd Carwyn Jones y byddai Llafur wedi mynd yn bellach.
“Mae rhywfaint o gynnydd mewn rhai meysydd i’w groesawu,” meddai Carwyn Jones. “Dylid rhoi clod i’r rheiny, o bob plaid, sydd wedi gweithio i gael rhywbeth allan o’r broses anfoddhaol a brysiog hwn.
“Fodd bynnag, dyw Cymru dal ddim yn cael ei thrin gyda’r un parch â’r Alban ac mae’r driniaeth anghytbwys hwn yn gwneud niwed i’r DU.
“Dyw’r cynlluniau yma ddim ond yn mynd rhan o’r ffordd tuag at gyrraedd cynnig datganoli Llafur y mae Ed Miliband wedi ei gyflwyno, ond dydyn nhw ddim yn mynd digon pell mewn rhai meysydd allweddol – fel yr heddlu.”
Ychwanegodd ei fod yn falch y byddai’r newidiadau yn gweld ’llawr’ yn cael ei osod ar Barnett, ond pwysleisiodd nad oedd hynny yn ei hun yn golygu bod Cymru ddim am gael ei thangyllido.
‘Rhoi’r ffrae i’w wely’
Awgrymodd Andrew RT Davies y gallai’r newidiadau oedd yn cael eu hawgrymu gan lywodraeth San Steffan roi taw ar ragor o drafod am ddatganoli am y tro.
“Rydw i’n talu teyrnged i’r ffordd gydsyniol y mae Stephen wedi trafod gyda’r holl bleidiau gwleidyddol er mwyn cynnig set o argymhellion cadarn all roi 20 mlynedd o ffraeo cyfansoddiadol i’r gwely,” meddai Andrew RT Davies.
Pwysleisiodd rôl y Ceidwadwyr wrth sicrhau’r refferendwm ar bwerau i’r Cynulliad yn 2011, yn ogystal â sefydlu Comisiwn Silk wnaeth yr argymhellion gwreiddiol ar bwerau i Gaerdydd.
“Yn y dyfodol ni fydd Llywodraeth Cymru’n gallu cwyno a beio eraill, ond yn hytrach fe fydd yn rhaid iddi ymddwyn fel llywodraeth go iawn a gwneud penderfyniadau anodd ar lefelau trethi a gwariant,” ychwanegodd.
‘Dim digon o gydweithredu’
Awgrymodd Leanne Wood nad oedd hi’n teimlo fod llywodraeth San Steffan wedi cydweithio â’r pleidiau gwleidyddol eraill digon wrth lunio’r cynlluniau.
“Rwy’n ddiolchgar i’r Ysgrifennydd Gwladol am hwyluso’r broses hon, a daeth Plaid Cymru i mewn i’r trafodaethau yn ysbryd cydweithredu.
“Am resymau nas esboniwyd yn foddhaol, fodd bynnag, mynnodd San Steffan fod pobl Cymru yn ymfodloni ar becyn o bwerau sy’n hynod brin o’r gyfradd ddatganoli gyfredol yn y Deyrnas Gyfunol.
“Er ein bod yn croesawu rhai elfennau a gynhwyswyd, megis datganoli pwerau dros ffracio, mae’r papur gorchymyn hwn yn ddiffygiol iawn o’r pwerau all ein helpu i gryfhau ein cymunedau.
“Ac nid yw’n mynd yn agos at gael y setliad cyllido sy’n ddyledus i Gymru wedi degawdau o anfantais.”
Galw ar Crabb i ymddiswyddo
Mynnodd grŵp ymgyrchu YesCymru y dylai Stephen Crabb ymddiswyddo, a hynny am nad oedd y cynlluniau yn gweithredu rhai o argymhellion Comisiwn Silk ar faterion fel budd-daliadau, darlledu, a phlismona. Dydy’r hyn a gyhoeddwyd heddiw ddim yn dod yn agos at hyn.
“Dyw’r datganiad ddim hyd yn oed yn cyflawni addewidion Comisiwn Silk; maent yn llusgo eu traed tu ôl i’r consensws ymysg y pleidiau gwleidyddol yng Nghymru, heb sôn am farn y bobl,” meddai Iestyn Rhobert, llefarydd ar ran grŵp pwyso.
“Mae’n bell iawn tu ôl i’r farn gyhoeddus. Mi ddylai Stephen Crabb ymddiswyddo am fethu Cymru a’i phobl unwaith eto.
“Mae hyn yn profi nad ydyn ni’n gallu dibynnu ar y gwleidyddion i wireddu ein dyheadau. Mae’n rhaid i ni fynnu cael ein clywed. Wnawn ni ddim gadael i’r Torïaid, nac unrhyw wleidyddion eraill, atal taith gyfansoddiadol ein cenedl.”