Cameron a Clegg yng Nghaerdydd
Mae David Cameron a Nick Clegg heddiw wedi cyhoeddi cynlluniau newydd i drosglwyddo pwerau ychwanegol i’r Cynulliad, sydd wedi cael ei ddisgrifio fel un o’r “datblygiadau mwyaf yn hanes datganoli Cymreig”.

Bydd penderfyniadau ar brosiectau ynni mawr, ffracio a thrafnidiaeth yn cael eu datganoli i Gaerdydd, yn ogystal â threfniadau etholiadau – gan gynnwys pleidleisiau i bobol ifanc 16 oed a rheolaeth dros etholiadau’r Cynulliad.

Cyhoeddodd y ddau arweinydd y bydd cynlluniau ariannol hefyd yn cynnwys gosod isafswm a fyddai’n gwarantu na fyddai cyllid Cymru yn disgyn o dan lefel benodol o’i gymharu â rhannau eraill o Ynysoedd Prydain.

Ar ôl misoedd o drafodaethau trawsbleidiol, dywedodd Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb y dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar sut i wella economi’r wlad yn sgil y pwerau ychwanegol newydd.

Llai na Silk

Ond mae’r cynigion yn parhau i fod yn llai nag oedd wedi ei argymell gan ail ran Comisiwn Silk ac yn llawer llai na’r hyn sy’n cael ei gynnig i’r Alban.

Mae’r Blaid Lafur eisoes wedi dweud fod diffygion y cytundeb yn dangos agwedd lugoer y Ceidwadwyr at ddatganoli i Gymru.

Ond roedd Llafur a rhai o fewn y Blaid Geidwadol wedi atal Ysgrifennydd Cymru rhag mynd ymhellach, meddai arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.

Creu hanes

Roedd David Cameron a Nick Clegg yn siarad mewn cynhadledd i’r wasg yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd y bore yma, cyn iddyn nhw annerch cynadleddau Cymreig eu pleidiau yn ddiweddarach.

Mae’r cytundeb Gŵyl Ddewi yma yn cynrychioli un o’r trosglwyddiadau pŵer mwyaf mewn yn hanes datganoli Cymreig,” meddai’r Prif Weinidog David Cameron.

“Mae’n golygu mwy o gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru ac y bydd mwy o benderfyniadau yn cael eu cymryd yma.

“Dyma yw’r cam diweddaraf i ddod o hyd i setliad parhaol ar draws y wlad i wneud y Deyrnas Unedig yn gryfach a thecach”.

“Rydym yn awyddus i gyflwyno pwerau newydd i Gymru fel bod mwy o benderfyniadau yn cael eu cymryd yn agosach at y bobl a rhoi mwy o gyfrifoldeb i’r Cynulliad Cenedlaethol – sy’n golygu bod y rhai sy’n gwario arian trethdalwyr yn fwy cyfrifol am ei godi.”