Mae ffigyrau newydd a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod Gwasanaeth Tân ac Achub Cymru wedi mynychu mwy o danau bwriadol a thanau glaswellt yn 2013-14 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Mae’r ystadegau’n dangos bod y Gwasanaeth Tân ac Achub wedi mynychu 7,564 o danau bwriadol yn 2013-14 sef cynnydd o 18% o’i gymharu â 2012-13. Er hynny, roedd y ffigwr yn lleihad o 71% o’i gymharu â 2001-02.
Roedd tanau bwriadol yn cyfrif am 57% o’r holl danau wnaeth diffoddwyr tân fynychu yn 2013-14. Yn ogystal, roedd dros chwarter o’r tanau a fynychwyd yn danau glaswellt, coetir neu gnydau, gyda’r rhan fwyaf ohonynt wedi cael eu cynnau’n fwriadol.
Ond mae’r Gweinidog dros Wasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews wedi dweud bod ffigyrau blwyddyn ar flwyddyn yn gallu bod yn gamarweiniol gan fod ffactorau fel y tywydd yn gallu cael effaith arnynt, a bod angen edrych ar y patrwm dros nifer o flynyddoedd.
Er enghraifft, roedd haf gwlyb 2012-13 yn golygu bod nifer y tanau glaswellt yn eithriadol o isel.
‘Gostyngiad sylweddol ers 2001’
Meddai Leighton Andrews: “Dros y deng mlynedd diwethaf, rydym wedi darparu dros £50 miliwn o arian i Wasanaethau Tân ac Achub Cymru i gefnogi gweithgareddau atal tân, gyda pheth llwyddiant.
“Rydym wedi gweld gostyngiad sylweddol yn nifer y tanau bwriadol yng Nghymru ers 2001. Mae tanau bwriadol mewn cartrefi, neu sy’n achosi marwolaeth neu anaf, wedi gostwng dros 80%.
“Fodd bynnag, lle mae diogelwch tân yn y cwestiwn, nid oes lle i fod yn hunanfodlon. Mae’n rhaid i ni i wneud popeth o fewn ein gallu i leihau nifer yr achosion o danau.”