Cameron Comey
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi dweud y byddan nhw’n lleihau’r defnydd o adnoddau arbenigol i chwilio am fachgen 11 mlwydd oed yn yr Afon Tywi yng Nghaerfyrddin.

Cafodd Cameron Comey ei weld y tro diwethaf yn chwarae gyda’i frawd ger yr afon yn ardal Tanerdy ger Caerfyrddin toc cyn 4 o’r gloch ddydd Mawrth 17 Chwefror.

Roedd mwy na 50 o aelodau o’r gwasanaethau brys – yr heddlu, y gwasanaeth tân, gwylwyr y glannau, badau achub a thimau achub mynydd – yn cymryd rhan yn y chwilio ar un adeg.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys heddiw y bydd y chwilio yn parhau ond fod y defnydd o adnoddau arbenigol, fel deifwyr, nawr yn lleihau.

Ychwanegodd llefarydd ar ran yr heddlu fod y teulu wedi cael gwybod a bod swyddogion arbenigol yn rhoi cymorth iddyn nhw “ar yr adeg hynod anodd hwn.”