Carl Mills
Fe fydd adolygiad achos difrifol i farwolaethau tair cenhedlaeth o’r un teulu yn eu cartref yng Nghwmbrân yn cael ei gyhoeddi heddiw.
Roedd Carl Mills wedi llofruddio Kim Buckley, 46, ei merch Kayleigh, 17, a’i hwyres Kimberley, oedd yn chwe mis oed, drwy gynnau tân yn eu cartref yng Nghwmbrân ym mis Medi 2012.
Mae disgwyl i’r adolygiad heddiw ofyn cwestiynau difrifol ynglŷn â rôl yr heddlu a’r gwasanaethau cymdeithasol a oedd yn gysylltiedig â’r teulu cyn y llofruddiaethau.
Roedd Mills, 26 oed, wedi cwrdd â’i bartner Kayleigh ar Facebook yn 2010 pan oedd hi’n 15 oed ac o fewn misoedd roedd wedi symud i Gwmbrân.
Fe ymosododd ar y cartref am ei fod yn credu bod Kayleigh yn cael perthynas a dyn arall ac roedd yn genfigennus o’r berthynas agos a oedd ganddi gyda’u merch fach Kimberley.
Bygythiadau
Roedd Mills wedi bygwth droeon y byddai’n llofruddio Kayleigh a’u babi, a llosgi eu tŷ i’r llawr. Y diwrnod cyn iddo gynnau’r tân roedd wedi anfon cyfres o negeseuon tecst bygythiol at Kayleigh.
Roedd Mills, a oedd yn ddigartref, yn byw mewn pabell yng ngardd ffrynt cartref y teulu, ac wedi cael ei wahardd rhag gweld ei blentyn heb oruchwyliaeth.
Cafodd Kimberley ei geni 15 wythnos yn gynnar ac roedd yn fyddar a dall. Roedd wedi gadael yr ysbyty ar y diwrnod y bu farw, ar ôl treulio chwe mis mewn uned i fabis newydd.
Ym mis Hydref 2013 roedd yr Arglwydd Brif Ustus, yr Arglwydd Thomas, ynghyd a day farwnwr arall yn Llundain, wedi dyfarnu bod dedfryd Mills o 30 mlynedd yn y carchar yn “rhy drugarog” a chafodd ei gynyddu i 35 mlynedd.